Fe gawson ni sgwrs efo fo ar ddiwrnod agoriad yr 诺yl yn 2006: "Fel arfer mae Llangollen yn rhywle ble mae'r byd yn dod i Gymru, a dyna yw swyddogaeth yr Eisteddfod. Mae'r Genedlaethol a'r Urdd yn dathlu diwylliant Cymraeg ac rydym ni yn dathlu diwylliant y byd. Eleni, rydym yn ceisio dangos i'r byd ychydig o ddiwylliant Cymru - mae gennym bileri mawr o ddiwylliant Cymraeg i ddangos i'r byd sydd yn dod yma.
Cyngherddau Gala
"Rydym yn cynnal cyngerdd gala gyda Bryn Terfel a Ll欧r Williams, ceir cyngerdd ar y nos Wener gyda phedwar C么r Meibion sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngh么r y Byd yn yr Eisteddfod ac wrth gwrs ar y nos Sul mae Katherine Jenkins yma.
"Mae pobl yn dod yma o bob rhan o'r byd ac yn cael eu derbyn gyda gw锚n, dim ots beth yw eu cred, eu hiaith, eu gwleidyddiaeth neu liw eu croen. Dim ots beth yw economi eu gwlad - maent i gyd yn cael eu trin yr un peth. Mae hynny yn bwysig iawn.
"Yr hyn yr ydym yn ei weld yw pobl yn mynegi eu hunain drwy gerdd a dawns, sydd yn ieithoedd rhyngwladol, heb yr angen i siarad iaith.
Gw锚n yn dweud y cyfan
"Oherwydd y ddawns a'r canu mae pobl yn gwenu a dim ots os nad ydych yn deall eu hiaith, rydych yn deall y mynegiant tu 么l i'r w锚n.
"Mae dydd Mawrth cyntaf yr Eisteddfod wedi dod yn draddodiadol yn ddiwrnod i'r plant lle rydym yn cynnal perfformiadau iddynt ar y brif lwyfan a llwyfannau o gwmpas y maes. Mae gwahanol weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau, yn cael eu cynnal ar gyfer y plant ifanc. Diwrnod Allan o Affrica drefnwyd eleni, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth a dawns o Affrica.
"Bu 36 o berfformwyr proffesiynol o Affrica yma, gan roi cyfle i'r plant cael gweld a chyffwrdd y math o ddiwylliant sydd yn dod o Affrica yn hytrach na darllen amdano neu ei weld ar y teledu."
|