Bu Arwel Jones, Cadeirydd Pwyllgor lleol yr 糯yl Gerdd Dant eleni yn egluro arwyddocad y tlysau.
"Ardal pwll glo yw hon ac rydym wedi comisiynu 60 o'r lampau a bydd pob enillydd unigol yn derbyn un o'r lampau hyn.
"Mae Cyngor Bro'r Rhos wedi prynu dros drigain o lampau fel tlysau ar gyfer yr 诺yl.
"Maent yn lampau hardd, rhai pres ac wedi argraffu arnynt mae G诺yl Gerdd Dant Rhosllanerchrugog a'r Cylch 2006.
"Gwahoddwyd Dafydd Iwan yma a gan ei fod yn hanu o Frynaman, sy'n ardal debyg i ni, fe gyflwynwyd lamp iddo.
"Mae'r diddordeb wedi lledu i'r ysgolion lleol ac mae'r plant wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil am eu teidiau a'u cyn deidiau oedd yn gweithio mewn gwahanol byllau glo.
"Maen nhw wedi bod yn dod 芒 lampau i'r ysgol - lampau eu teidiau - ac mae hynny wedi creu cryn ddiddordeb.
"Rydym wedi dod ag ysgolion o Glyn Ceiriog i Goedpoeth at ei gilydd.
"Mae Glyn Ceiriog yn ardal chwareli ac roeddynt yn defnyddio lampau yn y fan honno ac wrth fwyn gloddio yng Nghoedpoeth.
"Roedd Tom Ellis yn rheolwr pyllau glo Glanrafon a'r Hafod cyn dod yn Aelod Seneddol Wrecsam.
"Mae ganddo ef lamp ei dad, sef y person cyntaf i fynd lawr pwll Gresffordd wedi'r drychineb mawr ym 1934."
"Fe aeth ef hefyd, fel ei dad, i weithio i'r pwll ac mae wedi cadw ei lamp bersonol.
"Mae'r lamp yn symbolaidd iawn o'r ardal hon, o un pen i'r llall."
Canlyniadau G诺yl Gerdd Dant 2006
G诺yl Gerdd Dant 2006
|