Cyn y penwythnos mawr yn y pentref, bu t卯m Lleol ar ymweliad 芒'r ysgol leol i glywed am y paratoadau a'r edrych ymlaen. Mr Richard Jones, Prifathro, Ysgol I.D. Hooson:
"Tydi'r pentref ddim yn hollol wybodus o beth yw ystyr yr 糯yl Gerdd Dant.
"Dyw'r Rhos ddim yn enwog am Gerdd Dant, er bod pobl fel Mair Carrington Roberts ac Aled Lloyd Davies wedi bod yn cynnal gweithdai gyda'r plant.
"Ond rydym i gyd yn edrych ymlaen at gael yr 糯yl yma ac mae'n rhywbeth gwahanol i'r plant.
"Rydym wedi bod yn gwneud Alawon Gwerin yma dros y blynyddoedd.
"Ond mae hyn rhoi pwrpas ychwanegol iddo ac mae'r 糯yl Gerdd Dant yn mynd i roi hwb i'r syniad o Alawon Gwerin yn yr ysgol."
Osian:
"Byddwn yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Parti Alaw Werin a hwn fydd y tro cyntaf i ni gystadlu yn yr 糯yl Gerdd Dant.
"Rydym wedi bod yn ymarfer yn galed ers amser ac yn edrych ymlaen yn awr. Byddwn yn trio ein gorau."
Gethin:
"Rydym wedi bod yn ymarfer drwy'r tymor. Mae'r plant eraill yn dod i alw amdanom ac rydym yn ymarfer gyda Mr Richard Jones.
"Rydym wedi bod yn ymarfer yn ystod amser ysgol ac rwyf wedi mwynhau."
Catrin:
"Mae 12 ohonom o Flwyddyn 5 a 6 yn y c么r. Rydym wedi cystadlu yn yr Urdd o'r blaen ac yn cael llwyddiant fel arfer!
Elen:
"Bu'r ysgol yn cymryd rhan mewn Cymanfa Ganu hefo Martyn Geraint ar gyfer rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol.
"Roeddem yn y Stiwt drwy'r dydd gyda nifer o ysgolion eraill ac roedd hynny'n hwyl."
Canlyniadau G诺yl Gerdd Dant 2006
|