"Pentref bach yw Bontuchel, rhyw ddwy filltir o dref Rhuthun. Daw ei enw o'r bont uchel dros yr afon Clywedog, sydd yn llifo i afon Clwyd yn nes i'r dref. Bu'r dref unwaith yn enwog am ei thafarn, y Bridge, (beth arall?) lle cynhelid pob math o nosweithiau hwyliog. Erbyn hyn mae'r dafarn yn d欧 annedd; ac mae siop y pentre wedi cau ers blynyddoedd.
Nid oes neuadd fel y cyfryw.
"Canol y pentref yw Capel y Presbyteriaid, ac yn festri'r capel y bydd Merched y Wawr yn cyfarfod. O'r ffermydd cyfagos y daw y rhan fwyaf o gynulleidfa'r capel ac aelodau Merched y Wawr, a'r gymuned amaethyddol sydd yn cynnal diwylliant Cymraeg yr ardal.
"Fel cangen yr ydym newydd ddathlu G诺yl Dewi gyda swper (pawb yn cyfrannu bwyd), ac adloniant gan deulu o gyffiniau Rhuthun. Hyd yma, mae 'Y Pethe' yn fyw ac yn iach yn y Bont."
|