Bu dysgwyr Uwch-Meistroli ar Ysgol Haf Prifysgol Bangor yn Llaneurgain yn trafod eu profiadau nhw o eisteddfodau ac yn edrych ymlaen at eisteddfod 2007:Budge o'r Rhewl: "Mi es i i'r Eisteddfod yn Ninbych yn 2001 ar 么l symud i Gymru o Ben Bedw. Fedres i ddim dweud na deall un gair o Gymraeg a mi wnes i deimlo'n siomedig iawn a wedi cywilyddio. Wnes i ddim sylweddoli o'r blaen mor Gymraeg oedd yr ardal. Felly penderfynes i ddysgu Cymraeg. Flwyddyn yma dwi'n mynd i'r Eisteddfod yn yr Wyddgrug."
Hilary o Lanyblodwel, Swydd Amwythig: "Dim ond unwaith bues i i Eisteddfod Genedlaethol hyd yn hyn. Es i i Feifod yn 2003 ar 么l dysgu Cymraeg am flwyddyn. Roedd yn brofiad anhygoel a dwi'n edrych ymlaen i fis Awst eleni. Y prif beth oedd darganfod Cerdd Dant am y tro cyntaf. Hefyd wrth gwrs bod yn y pafiliwn i weld cadeirio'r bardd."
David o Bodfari: "Y tro cyntaf es i i'r Eisteddfod roedd ym Meifod. Yn anffodus ro'n i mewn pabell ger Maes B - swnllyd iawn tan bedwar o'r gloch yn y bore! Roedd hi'n boeth iawn yn y pafiliwn - dysgais i'r gair 'chwysu' yn gyflym! Y peth gorau oedd cystadleuaeth y corau dynion. Ar 么l yr eisteddfod es i i dafarn i gael pryd o fwyd a dyma'r enillwyr yn canu yn yr ardd. Noson ardderchog!"
Iain o Gaergwrle: "Mi fydd ofn arna i ond dwi'n edrych ymlaen at fynd i'r Eisteddfod am y tro cyntaf i ddefnyddio'r iaith dwi wedi bod yn ei dysgu. Bydd yn ddigwyddiad cymdeithasol."
Gwyneth o Gaer: "Mi ges i fy ngeni yn Aberarth ond fy magu yn Llundain cyn symud i Gaer. Tair blynedd yn 么l penderfynais i ail-ddysgu Cymraeg. Dwi'n cofio cystadlu yn Eisteddfod Ystradgynlais yn y Ddrama Tair Act ac yn ennill gyda chwmni Falmouth Road o Lundain. Ryan Davies oedd yn chwarae fy nhad! Dwi'n edrych ymlaen i gael cyfle i edrych am lyfrau Cymraeg, siarad Cymraeg a gweld y cadeirio. Ac efallai prynu wisgi Cymraeg!"
Peter o Rossett: "Dwi'n edrych ymlaen at deimlo'r awyrgylch a chlywed Cymraeg o fy ngwmpas - i foddi mewn Cymraeg!"
Fiona o Gwernaffield: "Roeddwn i'n cofio y tro diwethaf y daeth yr Eisteddfod i'r Wyddgrug. Pawb yn y glaw efo ymbarel, cot glaw a 'sgidiau glaw. Gobeithio bydd y tywydd yn braf y flwyddyn yma!"
Wendy o Ffynongroyw: "Mi es i i'r Eisteddfod ym Mangor. Ron i isio gweld y cystadlaethau yn y pafiliwn ond roedd y ciw yn rhy hir. Ron i'n mwynhau clywed Cymraeg 'naturiol'. Mi fydda i, gobeithio, yn gweld mwy o bethau yn y pafiliwn eleni. Mae'n anodd teithio i'r Wyddgrug achos 'sgen i ddim car, mi 芒 i ar y bws."
Nigel o'r Wyddgrug: "Mi es i i'r Eisteddfod ym Mangor ddwy flynedd yn 么l am y tro cyntaf. Mi es i i gasglu tystysgrif arholiad ym mhabell y dysgwyr a wedyn mynd o gwmpas y maes efo fy ngwraig. Y babell gelf oedd fy hoff babell. Mi wnes i gwrdd 芒 phobl ro'n i'n arfer gweithio efo nhw - siawns i sgwrsio yn Gymraeg yn naturiol am y tro cynta'."
Geoff o Gei Conna: "Dwi'n gobeithio gweld cantorion fel Dafydd Iwan a Si芒n James. Dwi'n hoffi cael cyfle i ymarfer Cymraeg a phrofi diwylliant Cymraeg."
Caryl o'r Wyddgrug: "Fy enw i yw Caryl a mi es i i'r Eisteddfod fel plentyn gyda fy rhieni. Rydw i yn edrych ymlaen at ymweld 芒'r Eisteddfod y flwyddyn yma a chael siawns i ymarfer fy Nghymraeg."
Robert o Sussex: "Gan fy mod i'n byw mor bell i ffwrdd o Gymru fach dwi'n mynd i'r Genedlaethol er mwyn prynu llyfrau Cymraeg, heb s么n am wisgi Cymraeg! Hefyd er mwyn cael cyfle i sgwrsio yn y Gymraeg, h.y. pethau nad ydynt ar gael yn Lloegr. Dwi'n mwynhau'r Gymanfa Ganu a'r cyngherddau ac mae Maes D yn ddiddorol ac yn gymorth mawr."
Graham o Groesoswallt: "Dwi'n mwynhau dysgu am ddiwylliant Cymraeg. Dwi'n hyfforddi i fod yn Gymro! Mi fydda i'n gweithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym mhabell Cyngor Sir y Fflint."
Mo o'r Wyddgrug: "Dwi'n cofio mynd i'r Eisteddfod ym Mhwllheli yn bedair oed. Dwi'n cystadlu yn y C么r Cymysg ar ddydd Gwener. Dwi'n canu yng Ngh么r y Pentan."
Jonathan o Ddinbych: "Yn yr Eisteddfod dwi isio cyfarfod 芒 phobl dwi wedi dod i'w 'nabod dros Cymru. Dwi'n mwynhau edrych o gwmpas y stondinau ac ymweld 芒 phabell y dysgwyr wrth gwrs."
Elizabeth o Ellesmere Port: "Dwi wedi bod i'r Eisteddfod ddwy waith. Mi es i i Ddinbych a Bangor. Y tro cyntaf roedd gen i ddiddordeb yn stondin Siop y Siswrn. Dwi'n hoffi'r gerddoriaeth, bandiau a chanu. Mae gen i gyfle i siarad Cymraeg."
Mo o Brestatyn: "Mi es i i Eisteddfod y Faenol ddwy flynedd yn 么l i weithio ar stondin y Cyngor Cefn Gwlad ym mhabell y dysgwyr. Roedd pobl yn dewis eu hoff le yng Nghymru ac yn rhoi pin ar y map yno."
Julie o Lanbedr: "Roedd y tywydd yn ofnadwy yn y Faenol yn 2005. Dwi'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y gystadleuaeth sgets efo'r dosbarth Cymraeg."