大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Wyddgrug
Scott Dysgwr y flwyddyn?
Er nad yw ei deulu yn siarad Cymraeg mae Scott Rowley ar fin gorffen gradd Gymraeg ac fe gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth y dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2007.

"'Dwi yn wreiddiol yn dod o Gei Conna a wedi cael fy magu ar lannau'r afon Dyfrdwy! Dwi wedi astudio Cymraeg ers ysgol babannod a wedi gwneud TGAU yn Ysgol Cei Conna a Lefel A yn Ysgol Uwchradd yr Alun. Ar hyn o bryd dwi'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor a dwi yn fy mlwyddyn ola.

Mae gen i ddiddordeb mewn ieithoedd a dwi'n astudio Ffrangeg hefyd ond mae gen i fwy o ddiddordeb yn y Gymraeg a dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i ni fel cenedl i ddysgu'r iaith, cadw hi'n bur a sicrhau'r dyfodol o genhedlaeth i genhedlaeth.

Hoffwn i fod yn esiampl, mewn ffordd, i bobl ifainc a plant sydd o'r un fath o gefndir 芒 fi. Mae 'na lawer o bobl yn Sir y Fflint sydd wedi dod o gefndir Saesneg sydd ddim yn gweld mantais o gwbl i ddysgu Cymraeg. Efallai bydda i'n medru rhoi ysbrydolaeth iddyn nhw!

Dwi'n edrych ymlaen at yr eisteddfod yn dod yn 么l i Sir y Fflint a dwi'n edrych ymlaen at gystadlu. Mae safon y gystadleuaeth hyd yn hyn wedi bod yn uchel, uchel iawn felly dwi ddim yn siwr am fy siawns, gawn ni weld. Dwi'n edrych ymlaen at fwynhau'r dydd ac os dwi'n ennill, bonus bydd hynna!"

  • Julie Macmillan o Gwm Rhondda oedd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2007. Y cystadleuwyr eraill oedd Albie Abbott o Loegr yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin a David Chan o Swydd Efrog.

  • Cyfrannwch

    Ben o Abertyleri
    Dw i'n cystadlu yn yr Urdd Eisteddfod eleni.Dydy fy rheini ddim yn gallu siarad Cymraeg fel rheini Scott Rowley felly pob lwc iddo fe.


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy