Mae lan y m么r Pistyll yn le neis!
Iwan Williams, Llangwm I ben mynydd y Foel Goch, sydd uwchben Llangwm. Richard Thomas, Llanberis Dyliwn wneud mwy mae'n debyg gan fy mod yn byw yn Llanberis. Moel Eilio yw'r ffefryn gan nad oes llawer o gerddwyr eraill o gwmpas fel arfer. Dafydd Glyn Jones, Ffestiniog Y llwybrau uwchben Plas Tan y Bwlch o amgylch Llyn Mair. Anest Evans o'r Ff么r Rownd Rhosfawr neu i weld y Gromlech am ei fod yn braf. Katie Jones, Llangoed Traeth Lligwy Rwth Jones, Bae Colwyn Y Gogarth Fawr Hywel Meredydd, Llangefni Arfordir Ynys M么n ac Eryri Dyfed Wyn Roberts, Amlwch Glan m么r Dulas a Mynydd Parys Sian Elin Huws o Ddyffryn Nantlle Glynllifon J Clapham o Fangor Porth Penrhyn a Moelyci. Celyn o Benmorfa Ar hyd Haulfre Gardens - llwybr sy'n mynd o ochr orllewinol (Penmorfa) y Gogarth Fawr i'r hen dref yn Llandudno. Mae'r olygfa yn fendigedig, a'r gerddi'n brydferth hefyd. Gall y rhai llawn egni ddilyn llwybr y Mynach, sy'n gadael Haulfre Gardens i fynd 芒 chi am dro dros ben y Gogarth. Bethan Jones, Nefyn Ar hyd ben 'rallt (ar hyd yr arfordir) o Nefyn tuag at Porthdinllaen. Anna o Gaernarfon Draw i Rosgadfan a thros y mynydd i gyfeiriad Waunfawr ar hyd y L么n Wen - mae'r golygfeydd o'r topiau dros Gaernarfon ac am Sir F么n yn anhygoel ac yn rhoi'r byd mewn persbectif os oes rhywbeth ar eich meddwl. Catrin o Nefyn Yn ystod yr haf o gwmpas Nefyn a Morfa Nefyn, y rhan fwyaf o'r amser ar lan y m么r.
|