|
|
|
G诺yl Caernarfon Croesawodd Caernarfon enwau mawr i'r dref fel rhan o'r 诺yl a gynhaliwyd yno rhwng 17-25 Gorffennaf 2004. |
|
|
|
Roedd Emma Bunton, Bill Wyman ac Elin Fflur yn perfformio yn y dref yn ystod dathliad Big Buzz Radio Wales a wynebau cyfarwydd Radio Cymru ac S4C yn diddanu yn ystod Taith Haf 大象传媒 ac S4C. Yn ystod yr 诺yl ei hun, cynhaliwyd brwydr bandiau i grwpiau lleol, diwrnod country and western a gorymdaith drwy'r dref. Ar ddydd Mercher, 21 Gorffennaf roedd rhedwyr o glwb athletau lleol yn rasio yn erbyn tr锚n Rheilffordd Eryri o Gaernarfon i Ryd Ddu. I gael manylion llawn y 诺yl ewch i'w gwefan: Y Daith Haf Ar ddydd Gwener, 23 Gorffennaf, roedd yr 诺yl yn croesawu s锚r y byd teledu a radio wrth i ddarlledwyr a diddanwyr Planed Plant S4C a 大象传媒 Radio Cymru ymweld 芒'r dref a darlledu'n fyw oddi yno. Roedd Alun o Planed Plant yn cyflwyno sioe arbennig ac roedd cyfle i gyfarfod 芒 rhai o hoff gymeriadau Planed Plant Bach gan gynnwys Sali Mali, Sam T芒n, SuperTed a chymeriadau bach bywiog cyfres y 大象传媒, y Bobinogi. Lluniau o ymweliad y Daith Haf 芒 Chaernarfon.Big Buzz Ar ddydd Sul, 25 Gorffennaf, roedd 大象传媒 Radio Wales yn dod 芒 g诺yl fawr y Big Buzz i'r gogledd am y tro cyntaf. Roedd rhai o berfformwyr mwyaf y byd pop yn ymddangos ar y Cei Llechi gan gynnwys y cyn Spice Girl, Emma Bunton, Liberty X, Bill Wyman a'r Rhythm Kings, Pheena, Elin Fflur a'r Band a TNT. Hefyd yn ymddangos yng Nghaernarfon, ar 么l methu 芒 dod i'r Big Buzz yn Abertawe, roedd Matt Goss, un o'r cogyddion a lwyddodd i bara drwy'r gyfres Hell's Kitchen a chyn aelod o un o grwpiau mawr yr 1980au, Bros. Perfformiodd ei sengl newydd, Fly yn ogystal ag un o hen ffefrynnau Bros, I Owe You Nothing. "Rydyn ni wrth ein boddau bod Matt wedi chwarae yng Nghaernarfon wedi methu 芒 dod i Abertawe. Mae'n berfformiwr gwych ac rydw i'n si诺r bod y dorf wedi mwynhau gwrando arno," meddai cynhyrchydd y digwyddiad Paul Forde. Mwy am y Big Buzz Mwy o luniau'r s锚r yng Nghaernarfon.
|
|
|
|
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|