"Mi ddylai pawb ddod draw i wrando ar gerddoriaeth newydd," meddai Guto Puw, y cyfarwyddwr artistig. "Mae o fel peint o Ginis. Os nad ydych yn ei flasu unwaith, sut ydych am wybod os oes eisiau peint arall arnoch?"
"Mae cerddoriaeth newydd mor eang 芒 cherdd pop, ac rydym yn gwneud ein gorau i adlewyrchu'r cyffro sy' o fewn y s卯n ar hyn o bryd."
Eleni, mi fydd yna gyfle i weld y perfformiadau cyntaf o waith gan y pianydd jazz, Huw Warren, gr诺p lleisiau EXAUDI ac ElectroacousticCYMRU.
"Mae ElectroacousticCYMRU yn hel synau wedi eu recordio at ei gilydd, yn cyflwyno effeithiau arbennig ac yn eu chwarae allan drwy ddesg gymysgu," meddai Guto. "Mae nhw'n creu rhyw fath o gerflun sain ac mae'r gynulleidfa yn eistedd yn y neuadd gydag uchel seinyddion o'i cwmpas yn chwarae synau o'r chwith, y dde a thu cefn, yn union fel surround sound."
Mae addysg yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r 诺yl, gyda phob perfformiwr yn cyd-weithio ar brosiectau gyda'r brifysgol neu ysgolion lleol.
"Ddaru ni fynd allan gyda plant o ysgol Pendalar i recordio synau Castell Caernarfon," meddai Ed Wright o ElectroacousticCYMRU. "Mi gawsom ni wylanod, drysau trymion yn cau, pobl yn cerdded - roedd o'n wych. Rydw i wedyn am fynd 'nol i'r stiwdio i droi'r synau yma i fewn i rywbeth sy'n fwy tebyg i gerddoriaeth arferol, ac mi fydd y plant yn cael perfformio efo ni ar y llwyfan."
Aeth y pianydd jazz, Huw Warren, draw i Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch ac Ysgol Uwchradd Caergybi i geisio chwalu rhagdybiaethau roc a pop y disgyblion wrth feddwl am gyfansoddi.
"Diben y prosiect oedd hybu'r plant i gyfansoddi darn o gerddoriaeth i berfformio'n fyw yn fy nghyngerdd," meddai Huw. "Mae o'n eithaf sialens iddyn nhw, gan nad yw cerdd glasurol yn chwarae rhan blaenllaw yn yr ysgolion. Mae o'n mynd yn fwy anodd i blant glywed mathau gwahanol o gerddoriaeth heddiw gan fod diwylliant mor homogenaidd, er ei bod yna i'w glywed ar y we."
Felly aeth Huw ati i wneud cyfansoddi yn h诺yl.
"Ar 么l iddynt gael y cyfle i arbrofi eu hunain, ddaru'r plant dechrau mwynhau eu hunain. Mi gawsom ni sg么r reit avant garde erbyn y diwedd."
Wrth s么n am ei gerddoriaeth ei hun, dywedodd Huw: "Mae dweud fy mod i'n chware jazz ddim wir yn helpu, gan fod y genre yma mor eang erbyn hyn. Mae fy ngherddoriaeth i yn eclectig, llawn dylanwadau gwahanol. Mi fydd rhyw bump y cant o'r hyn byddaf yn chwarae yn y cyngerdd wedi ei ysgrifennu'n barod, a'r gweddill yn arbrofol. Rydym yn ceisio peidio 芒 chwarae'r un peth pob nos."
Yn ogystal 芒'r cyngherddau a'r prosiectau plant, mi fydd yna gyfle i'r rhai ohonoch sy'n mwynhau canu gymryd rhan mewn sesiwn llais gydag arweinydd EXAUDI.
Mi fydd yna hefyd cyfle i glywed gwaith cyfansoddwyr ifanc yr ardal, wrth i aelodau o ElectroacousticCYMRU drafod yr ymgeiswyr a dewis enillydd.
Mi fydd yr 诺yl yn rhedeg o 17 i 20 Mawrth. Am ragor o wybodaeth am y prosiectau a'r cyngherddau, ewch i wefan yr 诺yl, http://www.bnmf.co.uk