Mae'r dathlu yn cychwyn nos Wener gyda sesiwn agored yn ystafell gefn y Vaynol Arms. Yna ddydd Sadwrn cynhelir gweithdai ffidil ac offerynnau eraill gan gynnwys cyfle i roi tro ar y crwth (hen offeryn Cymreig), yn ogystal 芒 chlocsio a gweithgareddau i blant gan gynnwys sioe pypedau.
Bydd cyngerdd meic-agored yn y dafarn amser cinio, i'w dilyn gan sesiwn agored drwy'r prynhawn; croeso i bawb ymuno.
Lleolir y cyngerdd gyda'r nos yn eglwys Sant Peris, y drws nesa i'r dafarn.
Ymhlith yr artistiaid bydd Roots and Galoots, band o dde orllewin Cymru sydd yn chwarae cerddoriaeth Bluegrass; Stephen Rees, sydd un o ffidlwyr mwyaf adnabyddus Cymru ac yn aelod o Crasdant ac Ar Log. Hefyd bydd set byr gan y trefnwyr, Cass Meurig, Idris Morris Jones a Nial Cain (neu Ty'n Llan Ali) a chyfraniad gan aelodau Clwb Ffidil yr Wyddfa.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.gwylffidil.info ebost: info@gwylffidil.info ff么n: 01286 871042
|