Beth ydych yn feddwl o'r Sesiwn Fawr?
Sally o Lanberis:
'Rydym yn poeni na fydd yna Sesiwn Fawr flwyddyn nesaf - byse hynny'n ofnadwy. Dwi wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd efo'r plant, ac yn mwynhau'n fawr.
John o Benisarwaun: Mae'n lot o sbort, fel un sy'n newydd i'r 诺yl. Mae wedi trefnu'n dda ar gyfer pobl mewn cadair olwyn hefyd, er dwi wedi cael trafferth parcio yn y dref, efallai oherwydd bod yr 诺yl ar y maes parcio.
Mi wnes i ddod lawr o'r maes pebyll ar y beic quad ddoe, ond yn anffodus roedd yn rhy fwdlyd bore 'ma.
Sue o Gwm y Glo:
Nid oes yna bobl feddw, fygythiol yma na dim - mae yn awyrgylch braf. Hefyd, does dim rhaid poeni a fydd eich pethau yn eich pabell yn saff. Mae'n gr锚t.
Lee o Abertillery - rhan o'r t卯m diogelwch:
Mae gweithio yma wedi bod yn brofiad gwych. 'Da ni wedi gorfod lluchio cwpwl o bobl allan am actio'n wirion, ond rili mae'n 诺yl ac mae pawb yn mwynhau.
Esyllt o Lanuwchllyn - gwirfoddolwr:
Dwi wedi bod yn gwirfoddoli yn y Sesiwn ers 17 mlynedd! Mae o wedi newid ers iddo symud o'r sgw芒r - mae o lot fwy r诺an, ond dwi dal i fwynhau. Fy atgof gorau i oedd Jazz Jamaica ar y sgw芒r un flwyddyn - roedd o'n wych.
Kevin o Dalysarn:
Roeddwn yn mwynhau'r Sesiwn ar y sgw芒r gan fod pawb yn agosach at ei gilydd, er dwi'n dallt y rhesymau i'w symud i'r Marian - ei bod yn saffach a phopeth.
'Da ni fel gr诺p beicio'r Bleiddiaid wedi dod am ddiwrnod bach allan heddiw. Gan fy mod ar y beic, dim ond un peint ga'i.
Elin o Morfa Nefyn:
Dwi'n hoffi'r ffaith fod lot o Gymry'n dod at ei gilydd - mae'n gyfle gwych i weld hen ffrindiau. Mae'n hefyd cyfle i wrando ar gerddoriaeth wahanol o dros y byd, ynghyd a miwsig Cymraeg hefyd. Mae yna naws arbennig i'r Sesiwn.
Mae'n achlysur - dwi'n edrych ymlaen pob flwyddyn i'r gwahanol arlwy sydd ar gael yma.
Dylan o Drawsfynydd:
Dwi yma efo'r plant ac mae'n dda iawn, os yw'r tywydd yn braf. 'Da ni heb symud o gylch bach cae'r plant am dair awr - mae yna beintio wynebau, gwneud anifeiliaid allan o balwn, castell bownsio, sioe pypedau a miwsig yn y babell ddawns.
Beth am y cerddoriaeth?...
|