Mae Huw Stephens, DJ Radio Cymru/Radio 1, yn dipyn o arbenigwr ar sut i oroesi gwyliau erbyn hyn.
"Fy nhip gorau yw ewch a welis - a menig, i dynnu nhw i ffwrdd! Hefyd, ewch i weld bandiau nad ydych wedi clywed am o'r blaen - mi wnewch chi fwynhau."
Mae Huw wedi mwynhau rhoi rhestr o fandiau a DJs at ei gilydd i chwarae llwyfan Relentless Live ar nos Sul Wakestock eleni.
"Mi fydda'i hefyd yn gwneud set DJ ar y nos Sul. Dwi fel arfer yn rhoi'r set list at ei gilydd munud olaf, er dwi 'fo syniad o beth i chwarae. Rhywbeth i gadw pobl ar eu traed ar y noson olaf!"
"Ddaru Wakestock ofyn i mi dewis bandiau ar y nos Sul fydd yn cael pobl yn dawnsio a theimlo'n hapus.
Mae Huw hefyd yn falch fod Y Promatics, band lleol o Ddyffryn Nantlle, am fod yn rhan o'i noson. "Maen nhw wedi gwneud sesiwn ar C2 i mi ac maen nhw'n wych.
"Er bod Wakestock yn 诺yl fawr efo lot o fandiau mawr Saesneg erbyn hyn, maen nhw wastad wedi rhoi cyfle i fandiau o Gymru a rhai sy'n chwarae miwsig Cymreig, sy'n wych."
Mae Dafydd Foxhall, drymiwr Y Promatics, yn gwerthfawrogi'r cyfle i chwarae ar lwyfan Huw Stephens. "Mae cael chwarae yn Wakestock jest yn superb. Dyma 诺yl fwyaf Cymru erbyn hyn, a'r gig mwyaf erioed i ni. Dwi'n cofio gweld y Zutons yna cwpl o flynyddoedd yn 么l a r诺an mi fyddaf yn chwarae yn yr un 诺yl a nhw!"
Wrth ddisgrifio naws ei fand, meddai Dafydd, "nid oes yna lot o fandiau fel ni yng Nghymru. Rydym yn ffans mawr o Bloc Party ac yn teimlo nad oes yna dim fel yna ar hyn o bryd. Ein bwriad yw gwneud rhywbeth bach yn wahanol."
Ond mae o wedi bod yn sialens i'r band, ddaru gyfarfod yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, aros gyda'i gilydd ar 么l iddynt wasgaru dros y wlad. "Mae o wedi bod yn hynod o anodd i ni baratoi gan fod dau aelod o'r band yn byw yn Nottingham, ac un arall yn y brifysgol yn Aberystwyth. Nid yw ein canwr yn dod adref tan wythnos cyn yr 诺yl, a dwi'n gweithio, felly does 'na ddim lot o amser i baratoi! Ond 'da ni'n defnyddio lot o synths a backing tracks sy'n handi i fi gan fy mod i efo drymiau electronig i ymarfer adra."
Mae Dafydd wedi cael y profiad o ymweld 芒 Wakestock fel ffan a drwy ei waith fel peiriannydd sain. "Roeddwn yn gweithio yn Wakestock yn 2008 ac mi ges i weld yr 诺yl o safbwynt un sobor tu 么l i'r llwyfan. Mae o'n wych. Coaches yn y bore yn mynd a chi i Bwllheli i wylio'r sgilfyrddio, sy'n brofiad yn ei hun, heb s么n am y gerddoriaeth! Cyfarfod pobl o Hawaii, Awstralia, Seland Newydd - mae'n nuts pa mor fyd eang yw'r 诺yl. Felly fy nghyngor i yw trio sicrhau eich bod yn cael amser i fynd i weld y sgilfyrddio - mae o'n wych."
Ond nid oes rhaid i chi fynd lawr i'r traeth i weld 'bach o sgilfyrddio. Dyma Rebecca Tappin, un o'r t卯m trefnu, i egluro sut mae'r pwll ar y maes yn gweithio. "Mae o fwy fel dau bwll, un yn ddyfnach na'r llall, gyda rheiliau trwy'r canol. Mae yna winsh sy'n tynnu'r sgil fyrddwyr ar hyd y rheiliau er mwyn iddynt wneud triciau yn y d诺r."
Yn 么l i draeth Pwllheli, ac mi fydd pencampwr y byd, Nick Davies, yn cystadlu yn erbyn Dan Nott, sydd eisoes wedi ennill teitl Relentless Wakestock dair gwaith, ynghyd a sawl un o Awstralia, America a Seland Newydd.
Rhagor o wybodaeth:
Lleoliadau
Mae'r adloniant fel arfer yn digwydd mewn tri lle:
Penrhos - Safle 40 erw gyda lle i dair mil o bobl wersylla, gyda'r holl gyfleusterau gofynnol ar gyfer g诺yl fawr. Yma mae yr holl adloniant gerddorol yn digwydd.
Traeth Abersoch - Yma cynhelir y cystadleuaeth ar gyfer sgilfyrddwyr pro kicker. Yn y gystadleuaeth hon mae'r byrddwyr yn cael eu tynnu ugain troedfedd i'r awyr i frwydro i fod yn bencampwr 'Big Air' yr 诺yl.
Marina Pwllheli - Mae'r prif gystadlaethau sgil fyrddio yn cael eu cynnal ym Marina Pwllheli sydd yn cael ei addasu'n bwrpasol at yr achlysur. Beth ydy sgilfyrddio?
Fersiwn yr haf o eira fyrddio ydy sgilfyrddio. Mae'n gyfuniad o sg茂o d诺r, bwrdd sglefrio, eira fyrddio a syrffio. Mae'r byrddiwr yn defnyddio bwrdd tebyg i un eira fyrddio ac yn cael ei dynnu gan gwch modur. Gan ddefnyddio'r tonau, neu'r llwybr mae'r cwch yn ei adael ar ei 么l yn y d诺r, mae'r byrddwyr yn perfformio pob math o driciau a throelliadau.
Rhagor o Wakestock.