大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wil Sam Cofio Wil Sam
Bu farw'r dramodydd a'r awdur William Samuel Jones - Wil Sam - yn 87 oed.
Am dros 50 mlynedd bu'n ysgrifennu dram芒u a stor茂au byrion am gymeriadau bro ei febyd - Eifionydd.

Wil Sam oedd yr awdur cyntaf yn y Gymraeg i wneud bywoliaeth o ysgrifennu, er na chafodd fawr ddim o addysg ffurfiol

gwrando Dei Tomos yn holi Dr Emyr Humphreys am fywyd Wil Sam

Bu'n cadw garej yn Llanystumdwy cyn ei werthu ym 1960 er mwy canolbwyntio ar ysgrifennu.

Ysgrifennodd ddramau ar gyfer y llwyfan yn ogystal 芒'r radio a theledu.

Wil Sam oedd yn gyfrifol am sgriptiau Ifas y Tryc oedd yn cael eu perfformio gan ei gyfaill, yr actor Stewart Jones.

Bu'r dramodydd Meic Povey yn talu teyrnged i Wil Sam ar Radio Cymru.

"Roedd yn ddyn ei filltir sgw芒r ac yn ysgrifennu am bobl ei filltir sgw芒r," meddai.

gwrando Meic Povey yn cofio Wil Sam ar Radio Cymru

"Roedd yn ffan nid yn unig o'i filltir sgw芒r ond yn mynd yn rheolaidd i 糯yl Ddrama Dulyn a mynd i Lundain i weld sioeau.

"Roedd yn 'sgwennu am ei filltir sgw芒r ond hefo dylanwad llawer ehangach na hynny 'dwi'n teimlo.

"'Dwi'n credu y bydd yn cael ei gofio fel un o'n dramodwyr mwya' erioed.

"Mae ei gyfraniad i'r theatr yn aruthrol.

"Roedd Ifas y Tryc yn glamp o gymeriad ac athroniaeth Wil oedd llawer iawn ohono.

"Mae ei dau lyfr - Ifas y Tryc a Ifas Eto Fyth - yr unig ddau lyfr am wn i yn Gymraeg pan ydych yn ei ddarllen 'da chi'n chwerthin yn uchel a peryg i chi ddisgyn oddi ar y soffa!

"Fedrwch chi ddim dweud hynny am brin neb yn y Gymraeg."

Daeth y newyddiadurwr Ioan Roberts i adnabod Wil Sam yn dda dros y blynyddoedd.

"Mi oedd o'n dweud rhywle nad oedd o'n medru creu dim byd a bod gwell ganddo alw ei hun yn 'sgwennwr yn hytrach na llenor," meddai.

"Sylwi'n graff oedd o, ac yn nabod ei fro ei hun.

"Roedd o'n ymfalchio mewn cael ei alw'n blwyfol. Roedd ei blwyfoldeb yr un peth a'i wladgarwch.

"Ond roedd o'n sylwi mor graff ar y natur ddynol fel bod ap锚l eang iawn yn ei gymeridau a'i 'sgwennu yn gyffredinol.

"Roedd ganddo argyhoeddiadau cryf ynglyn 芒 heddwch byd, dyfodol ei fro, yr iaith a'r genedl.

"Yr oedd yn berson crwn iawn ac roedd hynny o bosib yn ychwanegu at ei ap锚l."

Meddai'r Prifardd Twm Morys:

"Mecanic oedd o i gychwyn, ond mecanic oedd hefo dawn i 'sgwennu am y bobl roedd yn ei gyfarfod bob dydd.

"Roedd yn medru 'sgwennu yn nafodiaith Eifionydd fel nad oedd hi'n mynd yn gwbl anealladwy.

"Roedd o'n medru rhoi hi ar bapur yr oedd pawb yn ei ddallt."

Gyrrwch eich teyrngedau a rhannwch eich atgofion o Wil Sam

Teyrngedau Y Ffynnon


Cyfrannwch

Gareth Owen mab John Bryn Owen o Sawbridgeworth
Roedd yn drist ofnadwy i glywed bod fy Uncl Wil-Sam wedi marw yn 87 oed. Glywais hefyd bod yr angladd yn Lanystumdwy y mwyaf boblogaidd ers cynhebrwng Lloyd George. Mae'n siwr buodd Wil Sam yn un o'r gymeriadiau mwyaf alluog, adloniadol a hoffus mewn hanes llen yn Nghymru. Byddaf byth yn angofio Ifas Truc - enwedig 'suspensiwns' ei wraig! Cydymdeimladau garw i Anty Dora, Mair, Elin a'r teuluodd.

Dafydd Iwan o Ros-bach
Diolch Wil am ein difyrru a'n sobri yr un pryd. Diolch am ddangos fod yr iaith yn fyw ac yn dal i dyfu. Diolch am ddangos nad oes raid bod yn fudr i fod yn ddigri. Diolch am ddangos inni sut mae credu, a sut mae chwerthin o ddifri. Bydd y nefoedd yn lle mwy difyr o'r hanner wedi dyfodiad Gwynn, Graf a Wil Sam.

Gareth William Jones, Bow Street
I mi, mawredd W.S. Jones oedd y ffaith ei fod yn gallu creu dram芒u oedd wedi eu gwreiddio yn ei gynefin ac ar yr olwg gyntaf yn unigryw Gymraeg ond o edrych yn fanylach arnyn nhw gwelir fod y gomedi a'r them芒u yn llawer ehangach.

Linda Brown
Mi fyddwn ni yma yn Bara Caws yn colli ffrind annwyl iawn. Roedd Wil ar ben ei hun, yn berson annwyl, gwylaidd, caredig a dawnus. Mi fydd yn golled i ni gyd a cholled i Gymru gyfan. Roeddwn i wrth fy modd pan fyddai Wil yn galw i mewn am sgwrs a phaned ac yn fy elfen pan fyddai'n dod a sgript i mewn i ni. Mi fydd ganddo ni yma yn Bara Caws atgofion melys a hiraeth mawr am weld ei wen a'i wyneb direidus. Linda Brown (Bara Caws)

Mei Mac, Clynnog
Ger y t芒n mor wag yw'r tyWedi i Wil fynd i'w wely.

Margaret Lloyd Gaerdydd
Fe aeth Wil Sam a fi i Ysgol Chwilog am 7 mlynedd a mae gennyf atgofion hapus iawn o'r amser hynnu. Roedd digon o hwyl i'w gael a rwyf yn siwr fod rhai o'r dywediadau yn cael ei cadw a'u defnyddio yn eu storiau. Fe fydd yn cael ei golli yn y Tafarn y Plu ac yn y Gymdogaeth lleol.

Richard Parry Hughes Cwmni DramaLlwyndyrys
Yn gynharach yn yr wythnos yma bu angladd y diweddar Ray Gravel, a chafodd ei adnabod fel gwr diymhongar a Chymro cadarn. Roedd Wil Sam i mi yn tarddu o鈥檙 ru鈥檔 anian. Cwbwl ddiymhongar, gwerinol a Chymro cadarn. Un na ymffrostiai byth yn ei gampweithiau llenyddol. Fel aelod o gwmni drama Llwyndyrys ac fel cannoedd o actorion amatur a phroffesiynol, rhoddodd i ni y deunydd crai y difyrru cynulleidfaoedd. Rhoddodd ei amser a鈥檌 dalet i ni, heb gyfri鈥檙 gost. Mae ein dyled yn fawr.

Ken Owen, Marian-glas
Mi fuo Wil Sam yn ffeind iawn efo fi dros y blynyddoedd, bob amser yn hael ei gefnogaeth a'i anogaeth. Dim ond athrylith fel Wil fedra fod wedi sgwennu trysor o gyfrol 'Y Toblar么n', sy'n gwneud i chi rowlio chwerthin. Chwith meddwl ei fod wedi'n gadael.

Ian a Cath Parri, Llanystumdwy
Roedd y croeso gawsom gan Wil Sam pan ddaethom yma i Lanystumdwy i gadw Tafarn y Plu dair mlynedd yn 么l yr un cynhesaf y gellid ei ddychmygu. Dyma fu ei dafarn o dros y degawdau, lle mwynhai ambell Wyddel a seidcar - fel y disgrifiai eu Guinness a'i wisgi bach i ddilyn. Roedd yn fraint ei gael i agor ein bwyty bychan yma. Anodd meddwl am y lle heb Wil Sam yn galw i mewn o bryd i'w gilydd i'n diddanu efo'i straeon - yr un ohonyn nhw'n cael ei hail-adrodd. Prin i Gymru weld Cymro mwy pybyr na ffraeth erioed. Bydd colled enfawr ar ei 么l.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy