|
|
|
Derwyddon Dr Gonzo 'Jeromeia yncl coll Calvin' aka Cai Dyfan, un o'r Derwyddon o ardal Llanrug, sy'n s么n am eu gig gorau, Maggie Thatcher a physgodyn sy'n hoff o'r Jackson Five! |
|
|
|
Aelodau
Calvin stympi - Bas, Berwyn 'llemadyfam?' Jones -Trwmped, Aaron Chwarren - Guitar, Llion 'smilin tom' Gethin - Guitar, Cai 'Arglwydd' Dyfan - Dryms, Ifan Jamz - Offer taro, Ifan Bombshell - Llais a Guitar
O lle
Dyfnderoedd hudol, tywyll Eryri...
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Chwefror 2005
Pam ddaru chi ffurfio band?
Mi odda ni'n griw o ffrindiau beth bynnag, a dyma ni'n sylweddoli ein bod ni gyd yn gallu chwarae offerynau, ac i fewn i'r un fath o fiwsig mwy neu lai. Dyma ni'n dod at ein gilydd un noson aeafol i chwarae cardiau, yfed gormodedd o alcohol a chreu cerddoriaeth. A dyna ni, genedigaeth y Derwyddon!
Gig gwaetha
Mi naethom ni chwarae i dorf o ddisgyblion o Ysgol cyn y 'Dolig. Heblaw am y ffaith nad odd na neb rili'n cymeryd sylw ohona ni, mi ganodd y gloch yn ystod un o'r caneuon, a dyma'r gynulleidfa'n llifo allan, gan adael y Derwyddon druan ar ben eu hunain, mewn neuadd fawr wag, yn dal i chwarae! Wel wir.
Gig gorau
Yng Nghlwb y Rheilffordd ym Mangor efo Drymbago, Genod Droog a Saizmundo. Odd y lle'n llawn cyn i ni gychwyn chwarae hyd yn oed, ac roedd 'na lwyth yn ysgwyd eu booty ar y 'dans ffl么r' yn ystod y set. Odd pawb i'w gweld yn mwynhau'r gerddoriaeth, ac o'dd yna awyrgylch fendigedig yno.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Fela Kuti, Antibalas, Bob Marley, Specials, Rhumbajax, Drymbago, Ummh, Mr Scruff, Anweledig ... a lot mwy dwi'm yn eu cofio ar y funud!
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fel arfer mae Llion yn meddwl am riff ar y git芒r, wedyn mae pawb jysd yn jamio efo hwna am chydig i dr茂o dod yn gyfforddus efo fo a ffendio ryw fath o strwythur neu variations i wneud c芒n. Ar ben hwnna wedyn 'dan ni'n adio geiriau. Mor syml 芒 hynny!
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Yfed, bachu a dawnsio'n wyllt!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Margaret Thatcher, i fi gael llechio llefrith ar ei gwep hyll!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Ydi am wn i, mae'r ardal ble 'dan ni'n byw (ochrau Llanberis) yn eitha rugged a gwledig, ac mae'r gerddoriaeth 'dan ni'n ei chreu yn eitha organic i ryw radda. Mae ein gwreiddiau yn y mynyddoedd. God, dwi'n swnio fatha T.H Parry-Williams!
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Y wiskibass. Pysgodyn prin ydyw, sy'n llechu yn nyfroedd dudew llyn Padarn. Mae gan y 'sgodyn ffynclyd hwn affro, ac mae'n gwisgo siwt lycra borffor. Yn yr haf, gellir gweld blew affro'r wiskibass yn dod i'r golwg uwchben y tonnau, yn barod i fwyta twristiaid diniwed, ac yn 么l pentrefwyr Llanberis, pan fo'r lleuad yn olau, gellir clywed y wiskibass yn hymian caneuon y Jackson Five o dan y don.
O lle ddaeth yr enw?
Roedd hamster Calvin wedi cael ei daro yn s芒l, felly dyma ni'n penderfynu mynd ag ef at y dyn doeth noeth a drigai mewn ogof ar ochr y Grib Goch. Treuliodd Calvin wythnos gyfan yn brwydro trwy'r eira a'r rhew i gyrraedd yr ogof. Pan gyrhaeddodd o'r diwedd, taflodd y dyn doeth ei sylwedd hud dros wyneb Calvin a thros yr hamster. Mewn pwff o fwg pinc, diflannodd yr hamster a'r dyn doeth, gan adael darn o bren ar eu h么l yn dywedyd: "I Calvin, wedi mynd i Bermuda am wyliau, beth am hwn fatha enw i'r band? Derwyddon Dr Gonzo". Y diwedd.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Hirwallt, nwydus a hyblyg.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Yn yr ogofau tanddaearol, cyfrinachol yn Llanb锚r.
Beth ydy cynlluniau'r band ar gyfer y dyfodol?
Tr茂o ffendio pres i mi gael mynd i noson reggae yn Neuadd Hendre heno!
|
|
|
| |
"Y Wiskibass" o Bwll Morwyn Triwch beidio sgwennu'ch atebion ar damad o bapur tro nesa...god, son am fod yn sdiwpud!
Ella Brynrefail! Band gora sydd o gwmpas ar y funud! Daliwch ati!
Dr Gonzo - o flaen cyfrifiadur.... Mae gigiau nesa i gyd ar www.maes-e.com
Check 'em outtttt...
Yohimbe, Port Waw! Da chi'n swnio fel band rili cwl, pryd mae'r gig nesa? Fyddai siwr o fod yna yn ysgwyd fy "mwti"!
| |
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|