![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Epitaff](/staticarchive/a92fbb84dc5d72217f92b1ac9b02154a9756f620.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Epitaff Ynyr Roberts (tu blaen) sy'n egluro pam y byddai Epitaff yn hoffi deffro efo Elvis, eu bod yn gweld eu hunain fel car y bobl - Volkswagen - a'u bod yn benderfynol o chwarae gig ar gopa'r Wyddfa. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Aelodau
Fi (Ynyr) yw'r prif ganwr a dwi'n chwarae'r git芒r, Eurig Roberts sy'n chwarae'r git芒r f芒s a fo ydy'r llais cefndir, Huw Llywelyn sydd ar y git芒r flaen a'r sacsoff么n, mae Mathew Thomas yn chwarae'r git芒r a Dewi Thomas sydd ar y drymiau.
O lle
Mae pawb yn dod o ardal Llanrug.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Yn Ysgol Brynrefail yn 1997.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Jest am fod ganddon ni ddiddordeb mewn cerddoriaeth, ac eisio dechrau band yn yr ysgol.
Gig gwaetha
S'gen i ddim cof o gig gwael. Dydan ni erioed wedi dod o gig yn ddigalon, er, dwi'n cofio'n gig cynta' ni. Mi ddaru ni ei drefnu yn nhafarn yr Albert yng Nghaernarfon, tra ar noson allan wedi meddwi braidd. Roedd pawb ond dau ohonon ni yn rhy s芒l y diwrnod wedyn i chwarae'r gig! Er, falle nad hwnna oedd y gwaetha o bell ffordd.
Gig gorau
Mae gymaint ohonyn nhw wedi bod dros y chwe mlynedd diwethaf. Mi wnaethon ni chwarae gig da iawn efo'r Big Leaves yn y Celtic Royal un tro. Ar 么l y gig yna y gwnaethon ni wir fynd amdani fel gr?p.
Hefyd, y tro cyntaf roeddan ni ar i-Dot. Roedd hynny i gyd tua phum mlynedd yn 么l ac, er ein bod ni wedi chwarae yn y Faenol, does dim byd cystal 芒 gwneud rhywbeth am y tro gyntaf.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mae 'na restr eang o bobl - dyna beth sy'n neis am y band - dydw i ddim yn hoffi'r un bobl 芒'r lleill. Yn bersonol, dwi'n ffan o REM a Paul Simon, a phethau mwy bis芒r!
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Yn bennaf, fi sy'n gwneud pob dim - sgwennu'r geiriau a'r melodi. Mi fydda i'n cyflwyno fy ngwaith i'r gweddill, a phan mae'n dod i roi mwy o gig ar y g芒n, 'da ni'n trafod syniadau wrth ymarfer neu yn y stiwdio.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Mynd am ddrinc fel arfer, ac yna dal fyny efo'n gilydd a chael hwyl.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Elvis - er fod hwnna'n clich茅!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, faswn i'n feddwl. Mae lle dwi wedi bod yn byw yn ystod sgwennu'r gwahanol CDs wedi effeithio ar y miwsig. Mae ein caneuon ni'n easy going - 'da ni ddim yn s么n am drive-by shootings gan ein bod yn byw yng nghefn gwlad Cymru. Mae bywyd yn eithaf hapus yma, felly mae ein caneuon ni'n eithaf hapus ar y cyfan.
We are what we are. Da ni ddim yn tr茂o bod yn rhywun arall.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Dwi'm yn siwr am anifail, ond mi fasa'r band yn gallu bod yn Volkswagen - car y bobl, band y bobl! Dydan ni ddim yn boblogaidd efo'r critics - ma' nhw'n dweud ein bod ni'n rhy ganol-y-ffordd - ond mae pobl wrth eu boddau efo ni!
O lle ddaeth yr enw?
Clywed y gair wnes i gynta, a sylweddoli eich bod chi'n gallu ei ddefnyddio mewn sawl ffordd. Enw am y Cymry ydy Taff, ac mae 'epic' yn golygu rhywbeth da.
Pan ddechreuon ni, roedden ni'n chwilio am enw am fisoedd. Mi wnaethon ni ddefnyddio pob math o bethau - ein henw ni yn ein gig cynta oedd Five Foot Affro! Roedd ein caneuon yn eitha pynci ar yr adeg yna, felly roedd enwau'r band braidd yn r?d!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Mainstream, swynol a melodig.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Ar ben y Wyddfa. Rydan ni wedi tr茂o ddwywaith ond dydy o ddim wedi digwydd eto. Dwi'n gobeithio chwarae yno rywbryd.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Cynllunio clawr ar gyfer ein ffrindiau newydd, Anhysbys - ac yn meddwl am diwn newydd i'r band!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Cyfrannwch](/staticarchive/f5ad7cd797b6a9b2dd6503e2769c4f958cb8df04.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Bob Owen Dwi yn licio y can 'Geiriau'. Can rhagorol o arbennig o dda. Roeddwn yn licio y can nathe nhw efo Meinir ar Noson Lawen hefyd!
Ffion Hughes o Dinbych/Bala Mae'r band yn dda iawn ac yn canu yn werthchweil.
| ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![Cysylltiadau Rhyngrwyd](/staticarchive/2835568957e2d208ee2789622d477f7c94a8f200.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
听
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![0](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|