|
|
|
Eryr Mae perfformiadau roc pynclyd Eryr yn cymryd cymaint allan o'r band maen nhw'n "disgyn yn swp i'r gadair agosaf" ar 么l gig meddai Aled 'Ramirez' Hughes (ar y dde). |
|
|
|
Aelodau
Fi (Aled) yn chwarae b芒s a canu, Dafydd Dabson ar y git芒r flaen, Math Wiliam ar y gitar rhythm a Caron Williams ar y drymiau ac yn canu. Mae Dafydd Hughes, fy mrawd wedi drymio i ni dipyn o weithia'n ddiweddar hefyd.
O lle
Pen Ll?n
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua 1997
Pam ddaru chi ffurfio band?
Oherwydd diflastod, a doedd na fawr o ddim byd ysbrydoledig yn digwydd yn s卯n Cymru ar y pryd, felly pam ddim tr茂o gwneud rhywbeth gwell ein hunain?
Gig gwaetha
Mae na dipyn - diffyg ymarfer, diffyg cynulleidfa, gormod o Guinness i gyd yn cyfrannu at nifer o gigs ofnadwy.
Gig gorau
Maes B, Meifod ar y nos Sadwrn.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Yn bersonol, dwi'n hoff iawn o Guns n Roses, Backyard Babies y Sex Pistols ar Clash - roc trwm a pync yn bennaf. Mae gan Math dast digon tebyg i mi, mae Dafydd hefyd yn hoff iawn o'r Beatles a Muse, a mae Caron yn hoff o'r Chillis a Green Day. Yng Nghymru, mae Kentucky AFC, NAR, MC Mabon (yn y stiwdio, o leiaf) a Saizmundo yn sicr yn werth gwrando arnynt.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Dwi'n sgwennu'r geiria, mae Dafydd yn ffitio nhw mewn i ryw fath o g芒n. Weithia dwi'n trio gneud y miwsig, ond heb fawr o lwyddiant.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Disgyn yn swp i'r gadair agosa.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
BB King
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Dim ond ar y geiriau, dwi'n meddwl.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Eryr, o bosib.
O lle ddaeth yr enw?
Adar ysglyfaethus cenedlaetholgar.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Pync, metal, anghyson.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Mae pawb i'w weld yn dweud Copa'r Wyddfa. Dwi am gynnig Ynys Enlli.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Sb茂o ar Neighbours.Enwebwyd gan Twm Dempsey a Hefin Jones
|
|
|
| |
Hogan arall sy'n nabod genod pen Llyn Dwi yn cytuno efo genod Llyn, mae Caron angen dod yn ol i'r band!! Er mae'r band yn dda iawn rwan, oeddach chi yn wych yn Wakestock!
Genod Pen Llyn Angen Caron nol yn y band! Mae o yn werth y byd ac yn gorgeous!
Gwilym a Deio Class, edrych ymlaen i'ch gweld yn Wakestok!!!!!!! NEIGHBOURS RULE, especially Jo Skully!!!!!!!
| |
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|