大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gogz yn y Big Buzz, Caernarfon Gogz
Mae Owain Ginsberg yn ffans茂o Jennifer Ellison, yn astudio'r cyfryngau ac yn dojo darlithoedd am raglenni gwerthu tai er mwyn ateb ein holiadur ar ran y band.
Aelodau
Chris Carr, fi (Owain), Pearce Macintyre a Geraint Owen.

O lle
Mae Chris yn dod o Lanberis, dwi a Geraint o Bethel a mae Pearce yn dod o Wembley, Llundain

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua phum mlynedd yn 么l.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedden ni i gyd yn rili hoffi cerddoriaeth, a mi wnaethon ni ddechrau ymarfer yn y Neuadd Bentre Bethel. Wedyn, mi aeth Owain i brifysgol yn Stafford a chyfarfod Pearce, ac mi ddaeth o'n aelod o'r band.

Hefyd, mae gan ein rhieni ni ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth. Mae tad Owain yn gwneud peipiau Gwyddelig, a mae fy nhad i yn aelod o'r Cajun Denbos, felly rydan ni i gyd wedi tyfu i fyny efo cerddoriaeth.

Gig gwaetha
Ar daith y flwyddyn ddiwethaf, mi ddaru ni yrru am dair awr i gyrraedd Leicester, a dim ond tri person wnaeth droi i fyny!

Gig gorau
The Verge yn Llundain. Mae na lot o gefnogaeth i fiwsig byw lawr fan'na, well nag i fyny fan hyn weithiau. Hefyd yn theatr Llandudno, efo'r Super Furries yn DJs.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Fel gitarwyr, rydan ni'n hoff iawn o Django Reinhert. Mi wnaeth o golli pob un ond dau o'i fysedd mewn damwain, a dysgu ei hun i chwarae'r git芒r eto. Mae o'n wych. Da ni hefyd yn hoffi bandiau Cymraeg fel y Super Furries a ballu - mae nhw wir yn ein hannog ni i neud yn well.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Bydd pawb yn dod at ei gilydd i ymarfer, ac mi fydd gan un neu ddau syniadau ar gyfer caneuon. Fyddwn ni wedyn yn jamio, ac yn creu c芒n.

Mae cael Pearce yn y band wedi newid pethau lot hefyd. Da ni'n recordio mwy o ganeuon yn Saesneg r?an.

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Yfed pob math o bethau os 'da ni'n aros mewn tai ffrindiau yn Lloegr. Mae ganddon ni rywun sy'n trefnu gigs i ni yn Llundain ddwywaith y mis, felly 'da ni lawr fan'na lot yn part茂o!

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Jennifer Ellison o Brookside - tart bach!

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Wel, does na ddim llawer i'w wneud yma heblaw cael at ein gilydd ac ymarfer, felly dyna be 'dan ni'n ei wneud ar y penwythnosau. Rydan ni'n cyfarfod fama neu yn Stafford, yn yfed 'chydig ac yn ymarfer. Os fasen ni wedi tyfu i fyny mewn dinas, efallai y basen ni'n gwneud pethau eraill - fel mynd i pybs da!

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Eliffant: mae pawb yn drewi o gachu!!! (?)

O lle ddaeth yr enw?
Gogz, am mai dyna ydan ni. Dyna'r enw cyntaf ddaru ni feddwl amdano fo! Roedd yn rhaid i ni newid y sillafu i cael 'z' ar y diwedd i beidio sathru ar draed y bois o Fethesda sy'n gwneud y cart?n.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Bywiog, gwahanol, experimental.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Cae p锚l-droed Blackburn (mi fydd y bechgyn eraill yn 'y'n lladd i). Neu Stadiwm y Mileniwm, yn cefnogi'r Stereophonics adeg 'Dolig - neu ar ben yr Wyddfa, a bod y band cynta i chwarae'r gig ucha yng Nghymru!

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ro'n i mewn darlith diflas. Dwi'n astudio'r cyfryngau, ac ro'n i'n gorfod gwylio ryw raglen ddwl am werthu tai!


Cyfrannwch

ogia dre
be ddigwyddodd ir hen gogz dwad,shwr bod ows yn ffroi chips a chris yn gwerthu dodrefn antur waenfawr tuag at wan, swsus mawr a dewch n ol ato ni.; )

Criw'r Drindod
Dewch i chware yn y Drindod yn fuan - swsus mawr gan y genod xxx

lisa and dany pescara
hi gogz you're so unbelivable we can't wait to see you again! ciao un bambino a bordo a special kiss for chris and owain!

Lisa a Danniela
hi gogz how are you? your webside is fantastic...what about your new album? we are impatient, we want to listen it! a big kiss by Lisa and Danniela your big fans.

Sophia
Mae y band, ie, yn towtyli emeizing ie. Dani 'tha "Ow mai god" pob tro ma nw ar ie.

Sandra
Ma Gogz yn iawn - ond dim mor dda a manw'n feddwl. Ma nw angan reality check - ma'r band hollol i fyny tinau 'i gilydd, plis hogia - GET A LIFE!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy