|
|
|
Martin John Mae Martin John yn Leo penderfynol ac wedi bod yn mynd i gyfweliadau ers blynyddoedd. Uchafbwynt ei yrfa hyd yma oedd perfformio yng Ng?yl y Faenol. |
|
|
|
Aelodau
Jest fi!
O lle
Dolgellau. Mi es i Ysgol y Gadair.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Mi ddechreuais i brynu cylchgrawn y Stage pan oeddwn i tua 15 oed, ac mi roeddwn i'n mynd am lawer o gyfweliadau ar gyfer boy bands ym Manceinion a Llundain. Mi ges i lot fawr o brofiad wrth wneud hyn, a dwi'n deall beth mae nhw'n ei ddisgwyl - dydy o ddim mor hawdd a troi fyny i Pop Idol er enghraifft, a bod yn llwyddiannus.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Dwi wedi bod eisiau bod ar y llwyfan ers talwm. Faswn i byth eisiau gweithio mewn swyddfa. Es i am fy nghyfweliad cyntaf efo Serennu ar raglen Popty, a dwi wedi bod yn teithio efo Radio Cymru ac yn recordio caneuon ers hynny.
Gig gwaetha
Wel, mae gigs lle does na ddim llawer o gynulleidfa yn eithaf anodd. Ond mae o'n eich gwneud chi'n fwy tough. Mae'n bwysig gwneud eich gorau ar gyfer un person neu i dair mil - mae pob cynulleidfa yn bwysig.
Gig gorau
Y Faenol 2003 - roedd dros dair mil o bobl yna a mi roedd o'n wych!
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Dwi'n hoffi pob math o gerddoriaeth. Pan oeddwn i'n mynd i'r holl gyfweliadau, roeddwn i'n gwrando ar lot o Westlife a Boyzone gan mai dyna'r math o lais sy' gen i. Dwi'n hoffi perfformwyr fel Michael Jackson hefyd.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Dwi'n sgwennu ychydig, ond fel arfer mae rhywun arall yn sgwennu'r caneuon.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Mae'n dibynnu os mai fy ydy'r cyntaf ymlaen. Os mai fi ydy'r cynta, mi wna i aros i weld gweddill y bandiau, neu fynd i weld y ffans. Dwi wedi dechrau arwyddo llofnodion, ond mae o'n newid bob dydd!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Michelle o Liberty X (yr un dlysaf efo gwallt hir).
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Doedd dim llawer o gyfleon o gwmpas fy nghartref pan o'n i'n ifanc. I wneud beth dwi eisiau, roedd yn rhaid i mi deithio i Fanceinion a Llundain i wneud cyfweliadau. Weithiau, byddai'n rhaid i mi adael Dolgellau i ddal tr锚n yn gynnar yn y bore, mynd i'r cyfweliad, rhuthro i ddal y tr锚n adref, colli'r tr锚n a pheidio cyrraedd n么l tan wedi hanner nos! A finnau'n teimlon isel, wedi peidio cael trwy'r cyfweliadau. Ond eto, dyma yw fy mreuddwyd a mae'n rhaid mynd trwy lot o bethau cyn cyrraedd y top.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Llew. Maen nhw'n wyllt, a dwi'n Leo!
O lle ddaeth yr enw?
Fy enw i ydy o!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Fresh new pop.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Sesiwn Fawr Dolgellau, am mai o fan'no dwi'n dod.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Roeddwn i'n ymarfer ar gyfer ryw sioe, a r?an dwi yn stafell fy ffrind yn chwarae ar ei PlayStation!
|
|
|
| |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
| |
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|