大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

MC Saizmundo MC Saizmundo
Mae MC Saizmundo eisiau cael gwared 芒 chastell Caernarfon a sortio problemau parcio'r dref, ond sut cafodd Deian ap Rhisiart enw mor Ewropeaidd i'w alter ego?
Aelodau
Fi, a phwy bynnag sydd o gwmpas.

O lle
Cwm Pennantlliw yn sir Feirionnydd ond bellach dwi'n byw yng Nghaernarfon.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
2001.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roeddwn i isio deud fy neud. Roedd gen i lot o syniadau ac ro'n i isio i bobl eu clywed.

Gig gwaetha
Heb wneud un eto.

Gig gorau
Gig cynta yn Eisteddfod Meifod, roedd yna buzz da yno.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Eminem, Pep le Pew, MC Mabon, Datblygu a lot o rai eraill - os dwi'n clywed s诺n da dwi eisiau ei iwsio, mi wna i ei bigo fo i fyny.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Dwi'n sgwennu rywbeth sydd yn fy meddwl ar y pryd, yn ei adael ac yna'n dweud wrth Dyl (Mei - cynhyrchydd) be dwi isio ac mae o'n gwneud rhywbeth yn y stiwdio. Fe arfer dwi'n sgwennu ymlaen llaw ond weithiau mae'r creu yn digwydd yn y stiwdio hefyd.

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Pigo fy nhrwyn a mynd i feddwi.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Beyonce Knowles.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Na, dim felly. Lwc ydi o fod gen i ddiddordeb mewn geiriau, wnaeth neb ddysgu hynny imi yn yr ysgol. Mae Llanuwchllyn yn ardal geidwadol iawn - efallai 'mod i wedi rebelio yn erbyn hynny. Ond, mae dad yn dod o Ddyffryn Nantlle a mam o'r de a dwi'n meddwl mai meddylfryd sir Gaernarfon sydd gen i lle mae'r traddodiad yn fwy radicalaidd a coci, mwy 'In yer face'. Wedi dweud hynny, mae'n debyg bod tirwedd a barddoniaeth ardal y Bala yn ddylanwad hefyd.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Cath wyllt.

O lle ddaeth yr enw?
Mae o braidd yn gymhleth, ond alias Eidalaidd o ffugenw arall sy' gen i ydi o.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Caled, dychanol, du.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Mi faswn i'n chwalu castell Caernarfon ac yn cynnal gig yn y maes parcio fyddai yn ei le fo. Mae angen sortio allan problem parcio'r dre.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Eistedd mewn cadair wrth ymyl bisgedi chocolate chip organig a chaniau cwrw gwag Gruff (ei gyd-letywr).


Cyfrannwch

Dyfan Roberts o Ddinbych
Jyst gair bach i ddeud bod fi'n meddwl bod MC Saizmundo yn wych achos nes i weld o yn Time nos Wener. Dim Job yn HTV, Cymraeg Inglish a Terri a Huw ydi caneuon gore fi. Gobeithio ei weld yn Miri Madog.

seer-eye
Gai anghytuno gyda theta, mae'r cd ma'n wych. wir.

Alpha o Pi
Di hynna'm yn neis. Dwi'n licio'r boi, a ma'i rapio fo'n class. Gyda llaw, mae o'n dibynnu faint o ronnynau gamma ti'n anfon, allan nhw jesd mynd syth drwydda fi.

Theta Jons
Dwi 'di prynu'r CD a dwi'sho refund. WAN. Neu mi anfonnaf belydrau gamma i'ch lladd - oo-er!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy