|
|
|
NAR Peidiwch 芒 gofyn beth yw dylanwad eich ardal arnoch chi ond beth yw'ch dylanwad chi ar eich ardal yw arwyddair Ll?r ap Rhisiart, sydd yn adnabyddus iawn i heddlu Dinbych. |
|
|
|
Aelodau
Dwi'n chwarae'r drymiau (Ll?r), fy mrawd Gwern sydd ar y git芒r, fy ngwraig Ffion sy'n canu, Dylan Williams ar y git芒r, Dafydd Jones ar y b芒s, Hefin Huws hefyd yn canu ac Andrew Kidd sydd ar yr allweddau.
O lle
Ochrau Pwllheli.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua deng mlynedd yn 么l, er fod aelodau wedi mynd a dod erbyn hyn.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedd rhai ohonon ni yn aelodau o fand arall cyn Nar, sef Les D. Roedd Hefin hefyd yn aelod o'r band Halen yn y Briw.
Gig gwaetha
O, y Kings Head yn Dinbych. Mae'r hanes mor hir mi allwn i greu gwefan ar wah芒n iddo! Aeth pob dim yn anghywir. Mi ddaru ni gyrraedd yn rhy gynnar, ac felly cychwyn yfed! Doedden ni felly methu chwarae'n iawn - yn y bore mi ddaeth yr heddlu i'n hebrwng ni allan o'r dre!
Gig gorau
Clwb y T?r, Trefor - fy local!
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Ar y funud, pobl fel Black Sabbath, Deep Purple, Alice Cooper, pethau felly. Dwi hefyd yn hoffi'r Darkness.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mi fydd pawb yn cyfrannu yn eu ffordd eu hunain, er fel arfer bydd Hefin, Gwern neu Dylan yn meddwl am y syniad gwreiddiol.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Mynd allan ac yfed i ddweud y gwir!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Ozzie Osbourne.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Na, dim 芒 dweud y gwir, er dwi'n gobeithio ein bod ni wedi dylanwadu ar yr ardal!
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Tylluan, gan ein bod ni mor ddoeth!
O lle ddaeth yr enw?
Wel, roedden ni angen enw ar gyfer cystadleuaeth bandiau yn Llanfair ym Muallt, a felly ddaru un o'r band edrych mewn geiriadur, a darganfod y gair n芒r (doeddwn i ddim yna ar y pryd). Mae o'n golygu arglwydd, neu dduw - neu dwpsyn!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Heavy metal.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Mewn un a stadiymau mwya'r byd, gyda thorf o dros 200,000!
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Gweithio! Rydw i a Ffion yn weithwyr cymdeithasol yn y maes amddiffyn plant. Mae Dylan yn arlunydd/ffarmwr, Hefin yn gweithio efo Siop Sgiliau ym Mhorthmadog, Gwern fy mrawd yn athro, Dafydd yn gweithio mewn cartref plant, ac Andrew yn gweithio mewn deintyddfa ac yn chwarae gyda bandiau jazz o bryd i'w gilydd.
|
|
|
| |
Ceri, Caerffili Cyn-aelod o'r band, 'dwi'n cofio canu efo'r hogia' yn 'Steddfod - andros o brofiad! :)
Pob hwyl i chi, bois - edrych ymlaen at glywed gennych chi!
Andi Bi Dwi'n ffan enfaaawr. Absoliwtli lyfli. Andrew Kidd - enw da. Dwi'n gallu chwarae'r allweddellau hefyd - twinkle twinkle little star yw'r ffefryn ar y foment hon.
| |
|
|
|