|
|
|
TNT Efallai ei bod hi'n anodd credu, ond mae rhai wedi camgymryd TNT am fand o fechgyn yn y gorffennol, meddai Linda J Wood (ar y chwith). |
|
|
|
Aelodau
Ffion Wyn Davies, Kelly Louise Beech a fi (Linda).
O lle
Mae Kelly o Feddgelert, Ffion o Bwllheli a 'dwi o Fangor.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Ebrill 2000.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Am ein bod ni'n caru ei wneud o! Ro'n i a Ffion yn astudio Celfyddydau Perfformio ym Mangor a wastad wedi bod eisiau gwneud hyn. Roedd Kelly yn y Brifysgol ac wedi ennill llawer o gystadlaethau karaoke. Mi wnaethon ni ffurfio'r band ar 么l mynd am glyweliad i Fangor.
Gig gwaetha
Mewn ysgol ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd y plant wedi cynhyrfu braidd gormod!
Gig gorau
Big Buzz yng Nghaerdydd, haf 2003.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mariah Carey, Shania Twain a'r Sugababes.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mae'r caneuon yn cael eu 'sgwennu yn arbennig ar ein cyfer ni ond rydyn ni yn cael rhoi barn ar sut mae'r caneuon yn cael eu gwneud. Erbyn hyn rydyn ni'n deall sut mae pethau'n gweithio mewn stiwdio ac wedi dechrau sgwennu ein caneuon ein hunain.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Cysgu!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Mi fyswn i'n hoffi Adam Garcia, Kelly, Robbie Williams a Ffion, Martin Kemp.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Mae'r dylanwad Cymreig yn beth da. Mae ganddon ni reolwr yn Llundain ac yn gwneud dipyn o waith yno ar hyn o bryd. Mae pobl yn chwilfrydig pan ryden ni'n dweud ein bod yn canu yn Gymraeg a Saesneg, dydyn nhw ddim cweit yn gallu credu'r peth. Mae'n ein gwneud ni ychydig yn wahanol.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Teigr neu banther.
O lle ddaeth yr enw?
Roedd ganddon ni lwyth o enwau i ddechrau ond roedden ni eisiau rhywbeth byr oedd yn hawdd ei ddweud a'i gofio. Er, mae pobl yn disgwyl gweld boy band pan mae nhw'n clywed yr enw i ddechrau!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Rocky, glam, hwyl.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Cyngerdd anferth yn y Faenol.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ar fys rhwng Merthyr a Phontypridd - newydd wneud un o gyngherddau cyntaf ein taith newydd.
|
|
|
| |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
| |
|
|
|