|
|
|
Vates "Miwsig ben byrddau" gan griw o broffwydi'r Blaenau. Dewi Prysor sy'n egluro mwy am y band sy'n cymysgu roc, reggae a sga ac yn hoffi popeth o Motorhead i Mozart. |
|
|
|
Aelodau
Mae Phil Jones yn drymio, Han ar y b芒s, Oz ar y git芒r flaen a 'dwi'na ar y git芒r acwstig ac yn canu.
O lle
Ardal Blaenau Ffestiniog.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua dechrau 2003.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Wel, ddaru ni ffurfio yn wreiddiol pan roeddwn ni yn y coleg yn Aberystwyth tua dechrau 2003. Roeddwn i, Han a Gorwel Roberts efo'n gilydd yno a ddaru ni jest ffurfio mewn sesiwn jamio yn y C?ps.
Wedyn ddaru Phil ddod aton ni o Blaenau i Aber a dyna fo. Ddaru ni gyfrannu i'r CD Y Gwir yn Erbyn y Byd cyn i ni orffen yn y coleg. Ddaru Gorwel aros yn Aber, ond yn handi iawn roedd Oz o gwmpas ac yn gallu chwarae'r git芒r flaen.
Gig gwaetha
Ar y nos Sul yng Ng?yl Car Gwyllt yn Llan Ffestiniog roedden ni'n chwarae gig ar 么l penwythnos braidd yn drwm. Mi wnes i ddisgyn yn 么l dros ddryms Phil efo'r git芒r ar fy mhen. Mi lwyddon ni i gario 'mlaen efo bois y PA yn fficsio'r dryms.
Gig gorau
Y gig gorau oedd y gyntaf un wnaethon ni mewn parti pen-blwydd mewn cwt gwair yng Nghroesor. Roedd Anweledig, Kentucky AFC a Drumbago'n chwarae hefyd ac roedd hi'n un uffar o stompar! Roedd 'na waed ar fy git芒r, 'strings' yn fflio i bobman a'r croen ar drymiau Phil wedi torri. Wedyn ddaru pawb jest neidio ar y st锚j a chael un sesiwn jamio fawr.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Ar y funud, dwi r卯li i fewn i Kentucky AFC. Dwi hefyd yn licio popeth - o Motorhead i Mozart!
Wrth dyfu i fyny roeddwn ni i fewn i roc, ond dwi'n hoffi reggae yn ofnadwy hefyd. Dyna be ydy dylanwadau'r band - roc, reggae a sga hefyd.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Hyd yn hyn, fi sy' wedi sgwennu'r caneuon ond mae gan un neu ddau o'r lleill ganeuon ar y gweill hefyd. Jest digwydd bod oedd hi fod gen i ganeuon wedi eu 'sgwennu ers Aber. Dwi hefyd yn sgwennu rhai newydd tra'n chwarae o gwmpas efo'r git芒r yn y t? ac wedyn yn mynd 芒 nhw at y band i'w polisho nhw.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Gwylio'r bandiau eraill a mynd i'r bar.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Jamelia. Os nad hi, Ray Mears, y boi syrfeifal efo'i cornflakes - cornflakes mae o wedi eu gwneud ei hun allan o wreiddiau ryw blanhigion o ben y mynydd!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Ydy, yn bendant. Mae gan y dre draddodiad o fiwsig erioed, yn enwedig traddodiad reggae a sga, yn ogystal 芒'r s卯n gafodd ei chreu gan Anweledig.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo? Duck billed platipus. Dipyn o bopeth - yn rheibus, ond eithaf diniwed yn y pen-draw
O lle ddaeth yr enw?
Roeddwn i yn astudio hanes yn Aber ac eisiau gwneud rhywbeth allan o'r gair vates. O fewn tri dosbarth yr hen dderwyddon roedd y druides, bardes a'r vates - sef y derwyddon, y beirdd a'r proffwydi. Mae vates yn dod o'r un gair 芒 video, sef 'gweld' - 'y rhai sy'n gweld' ac roedden ni gyd yn hoffi'r enw yna.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Miwsig ben byrddau.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Bryn Castell - hen gaer Frythonig uwchben Llan Ffestiniog.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ar y ffordd i Fangor i chwilio am DVD sy'n recordio.
|
|
|
|
|
|