|
|
Aelodau
'Dwi ar y dryms (Aled), Llew yn canu a chwarae'r git芒r, Dyl yn chwarae'r git芒r a Meic P yn chwarae'r b芒s.
O lle
Mae Llew, Dylan a finnau yn byw yn ardal Bethesda erbyn hyn ac mae Meic yn ddigartref!
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Ddim yn si?r iawn - tua haf 2002 ma'n si?r.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Mi wnaeth o ddechra' fel ryw fath o fand dychmygol. Roedd ganddon ni'r enw cyn yr aelodau, math o beth! Roedd gan Llew ryw hen git芒r a practice amp bach ac roeddwn i wedi cael gafael ar ryw ddrym cit ceiniog a dima'.Mi wnaeth ein basydd ni ar y pryd ymuno, ac roedd o'n reit dda o'i gymharu 芒 ni! Felly roedd rhaid i ni dr茂o'i sortio hi allan i osgoi'r embarassment!
Gig gwaetha
Mi wnaethon ni gig yn Clwb Ifor, Caerdydd ac roedd hi'n ben-blwydd arna' i a Llew! Nuff said!
Gig gorau
Yr uchod.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
'Da ni i gyd i mewn i'r un math o bethau. Pavement, Pixies, Teenage Fanclub, Velvet Underground, Byrds, Bowie, Neil Young, Ffa Coffi ayb.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mi fydd rhywun yn meddwl am ryw syniad am felodi neu riff ac mi fyddwn ni'n ei chymryd hi o fan'na.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Gwylio'r bandiau eraill a chwilio am barti!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
'Dwi'm yn licio rhannu fy cornflakes! Neshi roi halen yn lle siwgr ar fy nghornflakes unwaith a dwi'm 'di gallu eu stumogi nhw ers hynny! Os fyswn i'n foi sy'n hoffi rhannu a 'sa gen i Weetabix neu rywbath, mi fyswn i'n mynd am rywun fel Kim Deal (basydd y Pixies). Mi fysa hi'n gallu canu caneuon Pixies i fi ar 么l i ni orffen ein Weetabix!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, yn bendant. Yn enwedig y bandiau sydd wedi dod o'r ardal dros y blynyddoedd - bandiau fel Ffa Coffi, y Cyrff ayb.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Llew, yn amlwg.
O lle ddaeth yr enw?
O'r camper van thingy! Ro'n i'n styc y tu 么l i un ar y ffordd i 'Steddfod Llanelli cwpwl o flynyddoedd yn 么l ac roeddwn i'n tr茂o meddwl am enw i'r band ar y pryd! Gwych o stori!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Git芒r, dryms, b芒s.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Sb芒r yn Gerlan! Efo Barry Shop fatha MC!
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ateb y cwestiwn diwethaf am be dwi'n ei wneud yr eiliad hon!
|
|
|
| |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
| |
|
|
|