Sioe Meirionnydd 2005 Roedd Sioe Meirionnydd 2005 ychydig yn wahanol i'r arfer - doedd na ddim cynnyrch cartref nac arddangosfeydd blodau i'w gweld yno, diolch i'r gwyntoedd cryfion y noson gynt a chwythodd y babell i'r llawr.
Ond, er gwaetha'r difrod a'r mwd dan draed, mi gafwyd cystadlu brwd a mwynhau, fel mae'r lluniau yma'n ei ddangos:
Pan gyrhaeddodd y criw yma o aelodau Merched y Wawr ar fore'r sioe, roedd y babell gynnyrch wedi ei chwythu i'r llawr gan y gwynt: doedd dim jamiau na chacennau yn Sioe Meirion eleni o'r herwydd!