Undebwr, Llafurwr a bardd a wnaeth gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru.
Er mai ychydig o addysg ffurfiol a gafodd Huw Thomas Edwards, mae'n cael ei gydnabod heddiw fel un o fawrion undebaeth lafur yng Nghymru ac mae rhai'n ei alw'n un o symbylwyr cychwyniad y broses ddatganoli n么l yn y 1950au.
Gadawodd yr ysgol yn 14 mlwydd oed i fynd i weithio yn chwarel wenithfaen Penmaenmawr. Yn fuan wedyn, wedi marwolaeth ei fam yn 1910, rhedodd i ffwrdd i gymoedd glofaol y de.
Yno y profodd anghydfod diwydiannol chwerw am y tro cyntaf gan gynnwys terfysgoedd Tonypandy yn 1911.
Cafodd ei anafu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a dychwelodd i chwareli gwenithfaen gogledd Cymru lle helpodd i sefydlu canghennau o'r Blaid Lafur ac Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol (TGWU).
Gan weithio o swyddfa'r TGWU yn Shotton, Sir y Fflint, roedd yn ysgrifennydd ardal gogledd Cymru ac Ellesmere Port i'r undeb rhwng 1934-53.
Ac yntau'n weithgar iawn gyda'r Blaid Lafur, cafodd ei benodi'n gadeirydd cyntaf Cyngor Cymru a Mynwy o 1949 ymlaen, pan gyhoeddodd adroddiadau pwysig ynghylch datganoli a diboblogi yn y Gymru wledig.
Ond ymddiswyddodd yn ddramatig o'r swydd hon yn 1958 pan wrthododd Llywodraeth Dor茂aidd Macmillan 芒 gweithredu argymhellion y Cyngor i benodi Ysgrifennydd Gwladol i Gymru.
Yn 么l Dr Paul Ward, academydd o Brifysgol Huddersfield sy'n ymchwilio i fywyd Dr Edwards, gellir priodoli llawer o'r diolch am ddatganoli yng Nghymru heddiw i Huw T Edwards.
Meddai mewn cyfweliad gyda'r Western Mail: "Roedd Edwards yn ffigwr canolog yng ngwleidyddiaeth Llafur Cymru a gwleidyddiaeth genedlaetholgar ...
"Fe gyfunodd ei ymroddiad i'w hunaniaeth waelodol Gymreig 芒'i synnwyr o gyfiawnder gymdeithasol oedd yn cael ei fynegi drwy ei waith gyda'r undebau llafur a'i aelodaeth o'r Blaid Lafur.
"Yn 1958, ymddiswyddodd o Gyngor Cymru gan na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol yn fodlon rhoi hunan-reolaeth i Gymru ac yn 1959, ymddiswyddodd o'r Blaid Lafur."
"... fe roddodd Gymru yn 么l ar yr agenda wleidyddol yn 1959, a byddai wedi bod yn ddigon bodlon gyda'r ffordd mae'r Cynulliad wedi gallu cyflwyno ystod eang o welliannau i Gymru," ychwanegodd Dr Ward.
Bu'n sosialydd ac yn aelod o'r Blaid Lafur ar hyd ei oes ar wah芒n i gyfnod fel aelod gweithgar o Blaid Cymru o 1959 tan 1965.
Roedd hefyd yn Llywydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am gyfnod.
Roedd ganddo gysylltiad agos iawn 芒 myrdd o gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan gynnwys fel cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru ac aelod o Fwrdd Llywodraethu TWW (Television Wales and the West) ac aelod o Gyngor Darlledu Cenedlaethol y 大象传媒, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gorsedd y Beirdd a Bwrdd Nwy Cymru.
Priododd 芒 Margaret Owen yn 1920 ac yn dilyn ei marwolaeth yn 1966, treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Sychdyn, Sir y Fflint.
Mae'r llwybr y cerddai ar ei hyd o'i gartref yn Rowen i'r chwarel ym Mhenmaenmawr gyda'i dad yn 14 oed wedi cael ei henwi'n Llwybr Huw Tom er anrhydedd iddo gan bobl ei fro enedigol.
Cyhoeddodd ddwy gyfrol o atgofion, mewn Cymraeg a Saesneg, Tros y tresi (1956) a Troi'r drol (1963).
Cyhoeddodd hefyd gyfrol o'i gerddi Tros f'ysgwydd yn 1959. Bu'n gyfarwyddwr Gwasg Gee yn Ninbych ac yn berchennog papur newydd Y Faner am gyfnod yn y 1950au.
Bu farw ar 9 Tachwedd 1970 yn ysbyty Abergele.
Mae ei bapurau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Yn eu plith mae llythyrau oddi wrth Weinidogion Cabinet Llafur fel Aneurin Bevan, Ernest Bevin a James Griffiths ac oddi wrth arweinyddion amlwg Plaid Cymru, Gwynfor Evans, J. E. Jones a Dr R. Tudur Jones yn eu plith.
Cyhoeddwyd Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards, awdur Gwyn Jenkins, gan wasg y Lolfa fis Gorffennaf 2007.