Lleisydd y Cyrff, cyfansoddwr ac un o sylfaenwyr Catatonia
Mae Mark Roberts bellach yn gynhyrchydd cerddorol mawr ei barch ond mae'n fwy adnabyddus fel un o sefydlwyr Catatonia, un o'r bandiau mwyaf llwyddiannus i ddod allan o Gymru yn y nawdegau.Yn fab i gigydd o Lanrwst, daeth Mark i amlygrwydd gyntaf yn y s卯n roc Gymraeg fel prif leisydd y gr诺p arloesol Y Cyrff, a ffurfiodd pan oedd yn dal yn yr ysgol.
Daeth Y Cyrff yn un o brif fandiau'r s卯n Gymraeg gan gyhoeddi sawl albym lwyddiannus fel Y Testament Newydd a Mae Ddoe yn Ddoe - sy'n cynnwys un o'u caneuon mwyaf adnabyddus o bosib: Cymru, Lloegr a Llanrwst. Llawenydd Heb Ddiwedd oedd eu halbym olaf ac fe chwalodd y band ddechrau'r nawdegau.
Symudodd Mark i Gaerdydd lle gwnaeth gwrdd 芒 Cerys Matthews. Daeth y ddau yn gariadon ac fe aned Catatonia gyda Cerys yn lleisydd, Owen Powell, gynt o'r Crumblowers, ar y git芒r gyda Mark, Paul Jones, cyn aelod arall o'r Cyrff ar y b芒s ac Aled Richards ar y drymiau.
Yn 1993, arwyddodd Catatonia i gwmni Crai ac fe enwyd eu sengl gyntaf For Tinkerbell yn sengl yr wythnos yn NME. Fe gawson nhw fwy o sylw gyda'u sengl nesaf, You've Got a Lot to Answer For cyn rhyddhau albwm, Way Beyond Blue yn 1996.
Ond y sengl Mulder & Scully (1998) ddaeth 芒'r grwp i'r brig go iawn, ac aeth eu halbwm, International Velvet, i rif un yn siartiau Prydain yr un flwyddyn. Daeth mwy fyth o sylw i'w rhan gyda'r sengl Road Rage ond fe chwalodd perthynas Mark a Cerys yn ystod y cyfnod yma. Ar 么l rhyddhau Equally Cursed and Blessed (1999) a Paper Scissors Stone yn 2001, fe chwalodd y gr诺p hefyd ac aeth yr aelodau i gyd ar eu liwt eu hunain.
Heddiw mae Mark yn dal i fyw yng Nghaerdydd ac yn ogystal 芒 gwneud gwaith cynhyrchu i fandiau eraill, ffurfiodd y Sherbert Antlers gyda'i hen ffrind Paul Jones a John Griffiths a Kevs Ford o Llwybr Llaethog.