Enillydd medal aur am godi pwysau yng ngemau'r Gymanwlad
Enillodd Raymond Williams y fedal aur am godi pwysau yng ngemau'r Gymanwlad yn 1986 ac aeth yn 么l i gystadlu eto yn 2002.
Ond ar ddechrau ei yrfa, gymnasteg oedd camp Raymond nes i athro ymarfer corff Ysgol Uwchradd Caergybi, Rob Wrench, oedd ei hun wedi ennill medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Christchurch, ei annog i roi cynnig ar godi pwysau. Doedd dim llawer o offer codi pwysau ar gael yn y Gogledd ar y pryd ond fe ofalodd Rob Wrench fod ychydig o fariau ar gael yn yr ysgol.
Yn 1977, gosodwyd Raymond ymhlith y deg uchaf mewn pencampwriaeth ieuenctid yn Sophia, Bwlgaria ac fe'i dewiswyd hefyd yn bersonoliaeth chwaraeon ifanc y flwyddyn yng Nghymru. Cyflwynodd John Toshack y wobr iddo a Raymond druan yn teimlo'n fyr iawn wrth ei ymyl ac yntau yn ddim ond 5'2" a John yn dalach o lawer!
Ymunodd 芒'r Fyddin yn 1979 a rhoi'r gorau i'r gamp am gyfnod cyn ennill teitl Cymru yn 1983 a'r Pencampwriaeth Celtaidd yn 1984.
Wedi'r pinacl o ennill y fedal aur yng Nghaeredin, pedwerydd ddaeth Raymond yn Seland Newydd yn 1990 a phenderfynodd roi'r gorau iddi a chanolbwyntio ar ei yrfa yn y Fyddin. Ond pan ddaeth y gemau i Fanceinion, roedd y demtasiwn yn ormod iddo. Erbyn hynny, roedd o'n h欧n o lawer na gweddill y cystadleuwyr ond llwyddodd i wneud cystal ag unrhyw un arall yn y byd ar y pryd rhwng 40 i 45 oed.
Ym mis Ionawr 2003, dychwelodd Raymond i Ynys M么n i weithio fel hyfforddwr codi pwysau ymhlith yr ifanc ac i weithio i Gyngor Chwaraeon Cymru. Ymhlith yr hogiau lleol mae'n eu hyfforddi i godi pwysau mae Andrew Goswell a Gareth Evans.