Un o deulu enwog o lythyrwyr, awdur a hynafiaethydd.
Yr un hynaf o'r pedwar brawd a adwaenir fel Morrisiaid M么n oedd Lewis
Morris, a'r un galluocaf, mae'n debyg; galwai ei hun yn Llewelyn Ddu o F么n
hefyd. Roedd yn wladgarwr, ysgolhaig, bardd, mapiwr a hynafiaethydd.
Gyda'i frodyr, hwn oedd pen-llythyrwr ll锚n Cymru ei gyfnod. Mae cryn fil o'u
llythyrau wedi goroesi ac maent yn llawn o wybodaeth am fywyd llenyddol a
diwylliannol y cyfnod, i gyd wedi eu hysgrifennu mewn Saesneg a Chymraeg cyhyrog.
Roedd y brodyr yng nghanol bwrlwm deallusol eu hoes, yn Llundain ac yn Sir
F么n, ac yn ddylanwad mawr ar eu cydoeswyr.
Ganwyd Lewis Morris ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd a'i fagu ym
Mhentre-eiriannell, Penrhosllugwy, ar ochr arall mynydd Bodafon. Gwelir plac
ar wal Tyddyn Melys, man ei eni, ac un arall ar wal Pentre-eiriannell er cof
am y brodyr.
Ni wyddys llawer am ei flynyddoedd cynnar ac eithrio iddo
gynorthwyo'i dad a oedd yn fasnachwr ar raddfa fechan. Ond meistrolodd
grefft mesur tir, ac ym 1729 fe'i penodwyd yn swyddog yn y dollfa yng
Nghaergybi a Biwmares. Bu ei gysylltiad 芒 morwyr yn sbardun iddo sylweddoli
bod angen gwneud map o arfordir Cymru, ac arweiniodd hyn at ddau gyhoeddiad
ym 1748, sef siart o'r arfordir o'r Gogarth hyd Aberdaugleddau, ac atlas,
Plans of Harbours, Bars, Bays and Roads in St. George's Channel.
Wedi ymweld 芒 Sir Aberteifi ym 1742, dechreuodd gymryd diddordeb yng
ngweithfeydd plwm y sir. Fe'i penodwyd yn ddirprwy stiward maenorydd y Goron
yng Ngheredigion ym 1746 ac felly cychwynnodd cyfnod helbulus yn ei fywyd,
gan fod uchelwyr lleol megis Herbert Lloyd o Ffynnon Bedr yn herio hawl y
Goron i fwyngloddio am blwm. Ymgartrefodd Lewis Morris yng Ngalltfadog, ger
Capel Dewi, ac wedyn ym Mhen-bryn, Goginan, lle y bu farw ym 1765.
Breuddwyd mawr Lewis Morris oedd darparu corff o lenyddiaeth ddifyr yn
Gymraeg ar gyfer pobl oedd yn troi at ddiwylliant Saesneg. Argraffodd ar ei
wasg ei hun yng Nghaergybi rifyn cyntaf Tlysau yr Hen Oesoedd (1735),
detholiad o ryddiaith a barddoniaeth ysgafn.
Ysgrifennodd nifer fawr o
ddarnau rhyddiaith a cherddi, yn Gymraeg gan fwyaf, yn eu plith llythyrau
ffans茂ol a dychanol yn null Jonathan Swift ac eraill. Mae rhai o'i englynion
a phenillion rhydd yn amharchus iawn. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi yn Y
Diddanwch Teuluaidd ym 1763. Ar ben hynny, rhoddodd gymorth ac anogaeth i
lenorion iau megis Goronwy Owen, Ieuan Fardd ac Edward Richard.
Prif ddiddordeb arall Lewis Morris oedd hynafiaethau, yn arbennig hanes
cynnar Cymru. Roedd yn selog dros amddiffyn enw da ei genedl trwy anfon
gwybodaeth at haneswyr estron a thrwy lunio math o eiriadur o enwau personol
ac enwau lleoedd yr oedd s么n amdanynt yn y traddodiad Cymraeg, dan y teitl
Celtic Remains; cyhoeddwyd rhan ohono ym 1878 dan olygyddiaeth Daniel Silvan
Evans.
Gadawodd ar ei 么l bentwr mawr o lawysgrifau a fu'n gyfrwng i ddiogelu
dysg Gymraeg ar adeg pan nad oedd na llyfrgell genedlaethol na phrifysgol i
wneud hynny.
Lewis Morris, yn ddi-os, oedd prif hyrwyddwr yr adfywiad clasurol mewn dysg
a ll锚n yng Nghymru yn ystod y ddeunawfed ganrif.