|
|
|
Be' sy' 'mlaen Prin yw'r gwefannau lleol sy'n cynnig gwybodaeth lawn am holl ddigwyddiadau'r gogledd orllewin, ond rydyn ni wedi dod 芒 hynny allwn ni at ei gilydd i'ch helpu i roi trefn ar eich bywyd cymdeithasol a diwylliannol. Neu ewch i'n hadran Digwyddiadau. |
|
|
|
http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/digw/
Rhestr o ddigwyddiadau mawr a bach drwy Gymru gyfan ar wefan 大象传媒 Radio Cymru gyda gwahoddiad ichi gynnwys eich digwyddiadau lleol chi drwy ffonio neu anfon ebost.
http://www.maes-e.com/
Mae seiat gigs Maes-e yn lle da i gael y clecs diweddaraf am gigs. Yn aml iawn bydd gigs yn cael eu hysbysebu yma cyn unrhyw le arall ac mi allwch chi hyd yn oed gael hyd i lifft i fynd yno os ydych chi'n lwcus!
http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/c2/gigs/index.shtml
Os ydych chi'n hoffi trefnu eich bywyd cymdeithasol ymhell o flaen llaw, yna mae rhestr gigs C2 yn dangos be sy'n digwydd yn y s卯n roc hyd at chwe mis ymlaen llaw.
http://www.snogonline.co.uk/
Snowdonia Nights Out Gazette (Saesneg) ydy un o'r ychydig wefannau sy'n cynnig gwybodaeth am ardal Eryri yn benodol. Mi welwch o'r ddalen flaen beth sydd wedi ei restru ar gyfer y saith diwrnod nesaf ac mae mwy i'w weld dan wahanol gategor茂au yng ngweddill y wefan yn ogystal 芒 dolenni i wefannau eraill. Un fantais sydd gan SNOG ydy ei fod yn rhestru nosweithiau rheolaidd yn ogystal 芒 gigs neu gyngherddau unigol.
http://www.docfictoria.co.uk/cymraeg/index.htm
Mae'r datblygiad newydd yng Nghaernarfon yn addo cyfleusterau hamdden, bwytai a chaffis a chanolfan siopa newydd.
http://www.gwynedd.gov.uk/index.asp?LangID=2&Language=2
O gyngherddau i arddangosfeydd, ffilmiau i ddram芒u, mae blaen ddalen gwefan Cyngor Gwynedd yn rhestru'r digwyddiadau sydd ymlaen yn ystod y mis. Ewch i waelod y dudalen i weld be' sy' 'mlaen a chliciwch ar y misoedd eraill i weld digwyddiadau'r dyfodol. Mi allwch chi hefyd chwilio am ddigwyddiadau penodol a rhif eich sinema leol drwy glicio ar rai o'r dewisiadau dan y pennawd Ymweld a Hamddena.
http://icnorthwales.icnetwork.co.uk/entertainment/
Mae'r wefan yma (Saesneg) yn rhoi gwybodaeth am be' sy' 'mlaen yn sinem芒u, theatrau a chlybiau'r ardal. Er nad yw'r wybodaeth a gynigir yn hollol gynhwysfawr, mae'n rhestru rhywfaint o ddigwyddiadau lleol.
http://www.theatrardudwy.co.uk/
Mae graffeg y safle yma yn syml a deniadol gydag aderyn bach yn eich dilyn wrth ichi symud eich llygoden dros y sgr卯n! Efallai nad ydy'r brif ddalen wedi ei diweddaru ers tro (mae'n cynnwys cyfarchiad gan y cyn gyfarwyddwr, Mici Plwm, sydd bellach wedi gadael y theatr) ond mae'r cysylltiadau ar y llaw chwith yn eich harwain at wybodaeth gyfredol am y dram芒u a'r ffilmiau sydd i ddod.
http://www.theatrcolwyn.co.uk/
Mae'r wefan yma yn ddigon syml, ond yn dweud popeth sydd ei angen arnoch chi i wybod be' sy' 'mlaen a sut i archebu tocynnau. Mi allwch chi hefyd ddarganfod sut i logi'r theatr at eich defnydd chi, neu sut i helpu'r theatr fel gwirfoddolwr.
http://www.nwtheatre.co.uk/
Safle syml, hawdd ei ddefnyddio sy'n rhoi gwybodaeth am be' sydd ymlaen yn y theatr. Cliciwch ar yr adran ar y bar llywio ar y chwith a bydd rhagor o is-adrannau perthnasol yn dod i'r amlwg i'ch arwain at wybodaeth bellach.
http://www.theatrgwynedd.co.uk/
Gwefan syml ac eglur sy'n rhoi gwybodaeth gyfredol am ffilmiau, dram芒u a digwyddiadau Theatr Gwynedd ym Mangor. Yn ogystal 芒 gweld be sydd ymlaen, mi allwch chi ddefnyddio'r wefan i archebu tocynnau ymlaen llaw ac ymuno 芒 negesfwrdd y theatr
http://www.cineworld.co.uk/cinemas/llandudno.phtml
Mae'r wefan yma (Saesneg) yn cynnig gwybodaeth am y ffilmiau mawr diweddara sy'n cael eu dangos yn sinema fwya'r gogledd orllewin a'r ffilmiau sydd i ddod yn y dyfodol.
http://www.apollocinemas.co.uk/
Gwefan ar gyfer sinem芒u Apollo drwy Brydain ydy hon ond os cliciwch chi ar Cinemas and Showtimes mi allwch chi ddarganfod pa ffilmiau sydd ymlaen ym Mangor ac yn y Rhyl.
http://www.coliseum-porthmadog.co.uk/default.htm
Efallai mai gwefan fach ydy hon, ond mae hi'n ddigon! Mae'n cynnig manylion am y ffilmiau sy'n cael eu dangos, hanes sefydlu'r sinema yn yr 1930au a sut i gysylltu 芒'r staff.
http://www.holyhead.com/whatson/
Am gael noson allan yng Nghaergybi? Defnyddiwch y cysylltiadau o'r dudalen yma i ddarganfod be' sy' 'mlaen yn sinema'r dre yn ogystal 芒 Chanolfan Ucheldre a'r Boston Centre Stage.
http://www.realinstitute.org/
Mae'r wefan ddwyieithog hon yn cynnwys dyddiadur nosweithiau ffilm y R锚l Institiwt, a gynhelir fel arfer ym Metws-y-coed, a gwybodaeth am rai o'u cyn brosiectau. Chwiliwch drwy'r adrannau sydd mewn testun llwyd gwan yng nghornel dde uchaf y sgr卯n i gael mwy o wybodaeth am y gymdeithas unigryw hon o Ddyffryn Conwy.
http://www.galericaernarfon.com/
Mae'r ganolfan mentrau creadigol a agorodd ar y cei yng Nghaernarfon yn 2005 yn addo bod yn ganolbwynt ar gyfer pob agwedd o'r celfyddydau yn y gogledd. Mae'r wefan ar hyn o bryd yn rhestru'r newyddion diweddaraf, staff a swyddi gwag, lluniau a digwyddiaddau.
http://www.broadwayboulevard.co.uk/
Mae gwybodaeth am nosweithiau gwahanol (dawns, R'n'B ayb) a llawer y luniau o ferched yn dawnsio ar y wefan, ond dim llawer mwy.Rhowch wybod inni am unrhyw wefannau da eraill rydych chi'n dod ar eu traws.
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|