|
|
|
Twristiaeth Os ydych chi'n byw yn y gogledd orllewin, yn bwriadu dod yma ar ymweliad neu am helpu teulu a pherthnasau i drefnu gwyliau yma, dyma restr o wefannau fydd o gymorth. |
|
|
|
http://nwt.co.uk
Wedi ei anelu'n bennaf at ymwelwyr o'r tu allan i Gymru, ac felly'n uniaith Saesneg, mae gwefan Twristiaeth Gogledd Cymru yn rhestru llefydd i aros ac yn disgrifio'r ardaloedd twristaidd mwyaf poblogaidd yng ngogledd Cymru gan roi arweiniad i drefi a phentrefi. Fe allwch hefyd ganfod lle mae'r ganolfan groeso agosaf a lle sy'n cynnig gwasanaeth banc ac archebu llety dros y we o'r safle.
http://www.walesdirectory.co.uk
Mae'r wefan yma yn cynnig detholiad o wefannau eraill sy'n cynnig gwybodaeth am dwristiaeth yng ngogledd Cymru, gan cynnwys mapiau, gwybodaeth am drafnidiaeth a llefydd i aros.
http://www.croeso.com
Mae rhwydwaith Saesneg Welcome to Wales yn rhestru sawl tref yng ngogledd orllewin Cymru a pha atyniadau a chyfleusterau sydd ar gael ynddyn nhw. Mae cysylltiadau i wefannau eraill o ddiddordeb hefyd.
http://www.croeso-cynnes-wales.co.uk/index.html
Safle i ogledd Cymru sy'n canolbwyntio ar wybodaeth ddefnyddiol am lefydd i aros ond mae adrannau ar bethau i'w gwneud yn yr ardal a manylion teithio hefyd.
http://www.visitwales.com
Gwefan swyddogol Bwrdd Croeso Cymru sy'n cynnig torreth o wybodaeth am bob agwedd o'r diwydiant ymwelwyr. Os mai hanes, golygfeydd, crefftau, siopa, traethau neu grwydro ydy eich maes diddordeb mae'r safle'n cynnig awgrymiadau defnyddiol a gwybodaeth gefndir am hanes a diwylliant Cymru. Gallwch hefyd chwilio am lety ar-lein drwy beiriant chwilio manwl y safle.
http://www.nationaltrust.org.uk
Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhoi'r holl fanylion sydd ei angen arnoch chi cyn ymweld ag unrhyw un o eiddo niferus yr Ymddiriedolaeth yng ngogledd orllewin Cymru, gan gynnwys Plas Newydd, Plas yn Rhiw a Chastell Penrhyn. Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn berchen ar diroedd eang yn Eryri ac ar hyd yr arfordir ac mae digon o weithgareddau i blesio pawb, gan gynnwys plant, ar y safle.
http://www.aocc.ac.uk/
O ddiddordeb arbennig i ogledd orllewin Cymru mae'r adrannau am yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis a Chaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon. Mae'r tudalennau ar gyfer y ddau leoliad yn hawdd cyrraedd atynt o'r ddalen gartref ac yn rhoi'r holl fanylion ymarferol sydd eu hangen arnoch chi i ymweld, disgrifiad da o beth sydd gan y llefydd i'w gynnig a gwybodaeth am agweddau addysgol hefyd.
http://www.cadw.wales.gov.uk/
Mae cynllun anarferol y wefan yma yn golygu bod angen treulio dipyn o amser yn dod i ddeall sut i lywio drwy'r safle. Ond, mae'n cynig gwybodaeth am adeiladau a safleoedd hanesyddol drwy'r gogledd orllewin i gyd yn ogystal 芒 gweddill Cymru.
http://www.greatlittletrainsofwales.co.uk
Nefoedd i unrhyw un sy'n caru trenau a rheilffyrdd! Dyma wefan sy'n eich cyfeirio at holl reilffyrdd bach Cymru a chwmn茂au bach annibynnol fel Rheilffordd yr Ucheldir. Safle Seasneg sy'n cynnwys lluniau, manylion tocynnau a theithio a chysylltiadau i wefannau'r rheilffyrdd eu hunain.
http://www.seasideawards.org.uk
Os ydych chi am wybod lle mae'r traethau gorau, dyma safle sy'n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am safonau a chyfleusterau, diogelwch a amgylchedd mwy na 40 o draethau yng ngogledd orllewin Cymru. Mae hefyd yn rhoi manylion safonau Gwobrau Traethau 2003 a statws y Faner Las a gallwch chi enwebu eich hoff draeth chi hefyd. Fe fyddai lluniau o'r traethau eu hunain yn braf hefyd.
http://www.gwyliaucymraeg.co.uk/
Safle gan Fentrau Iaith Cymru i hybu gwyliau mewn ardaloedd Cymraeg er mwyn helpu dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg ydy hwn. Mae modd ichi chwilio am lety, llefydd bwyta a llefydd i ymweld mewn gwahanol ardaloedd drwy glicio yn y blychau ar waelod y ddalen gartref.
http://www.conwy-valley.org/
Gwefan Saesneg sy'n amlinellu bron i bopeth fyddai ar ymwelwyr angen ei wybod am ddod am wyliau yn ardal Betws-y-coed a Dyffryn Conwy. Ceir manylion beth i'w weld, lle i fynd a lle i aros yn ogystal ag arweiniad i bentrefi'r ardal.
http://www.llandudno-tourism.co.uk/
Dyma'r wefan swyddogol i dwristiaid ar gyfer arfordir Cyngor Sir Conwy o Fae Cinmel i Lanfairfechan, gan gynnwys trefi glan m么r enwog Llandudno a Bae Colwyn. Mae yma ddigon o wybodaeth ddefnyddio ond rhaid sgrolio drwy'r testun drwy ffenest fechan ar ganol y dudalen.
http://www.northwalescoast.co.uk/
Prif atyniad yr arweiniad yma i Fae Colwyn a'r cyffiniau ydy'r detholiad o luniau yn y dair oriel luniau, gan gynnwys golygfeydd prin iawn o'r promen芒d ym Mae Colwyn dan haen o eira.
http://www.llyn-peninsula.co.uk
Safle wedi ei chreu gan Martyn Croydon o Gaerwrangon, bachgen ysgol sy'n dysgu Cymraeg er mwyn paratoi at yr adeg pan y bydd yn gallu symud i fyw i Ben Ll欧n! Mae'n cynnig gwybodaeth am yr ardal a'i hanes ac yn eich cyflwyno i draethau mwyaf poblogaidd yr ardal ac yn rhoi gwybodaeth am amser teithio o le i le a chysylltiadau i wefannau lleol eraill.
http://www.enlli.org
Mae'r ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am gynnal ynys yr ugain mil o saint wedi ailwampio eu gwefan. Mae'r cynllun newydd yn un hawdd llywio drwyddi ac yn hawdd ar y llygad. Mae'n cynnig gwybodaeth am adar yr ynys, sut i drefnu gwyliau yno, yr afal unigryw sydd wedi ei ddarganfod yno hyd yn oed sut gallwch chi ymuno 芒'r ugain mil o saint drwy drefnu cael eich claddu ar yr ynys!
http://www.llynmarinecharters.supanet.com/
Dyma safle'r cwch sy'n arbenigo mewn teithiau o gwmpas Pen Ll欧n gan gynnwys rhai ecolegol mewn cydweithrediad 芒 Bwrdd Twristiaeth Gogledd Cymru a Bwrdd Croeso Cymru. Ceir manylion holl deithiau'r cwch yn ogystal 芒 rhestr o lefydd aros, tai bwyta a siopau yn yr ardal. Awgrymwyd gan Alan Gray
http://www.islandofchoice.com/tourism.asp
Safle Cyngor Sir Ynys M么n ar gyfer ymwelwyr 芒'r ynys ydy hwn. Mae'n rhestru popeth sydd gan F么n i'w gynnig i ymwelwyr: o lefydd i aros a bwyta i weithgareddau a llefydd i ymweld 芒 nhw, ac arweiniad llawn i lwybrau cerdded yr ardal.
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|