Yr ateb yn ddigon syfrdanol ydi dau o'r ectras, Mal a Gwynfor. Un o hogia dre ydi Gwynfor, wedi ei fagu yn Cae Garw a'i eni yn NhÅ·'r Eglwys, Llanbeblig. Mae o a Mal wedi bod yn gymeriadau amlwg yng Nghwmderi ers dros ugain mlynedd.
Nid actio oedd cysylltiad cyntaf Gwynfor â'r byd adloniant ond cerddoriaeth. Drymiwr ydi Gwynfor ac mae o wedi chwarae efo Crysbas, Dr Hywel Ffiaidd a Dalek Babies ac mae'n dal i chwarae efo'r 'Cwm-itments' - criw o dechnegwyr a pherfformwyr Pobol y Cwm, gydag Arwyn Davies (sy'n portreadu Mark yn y gyfres) yn brif leisydd.
Er ei fod bellach yn ennill ei fara menyn drwy berfformio nid hynny aeth â fo i Gaerdydd. Roedd o'n gweithio efo Cavendish Woodhouse yng Nghaernarfon ac fe symudodd efo nhw i Gaerdydd. Tra yno fe gafodd gais i wneud diwrnod o waith fel ecstra ar Pobol y Cwm. Wedi i gynhyrchwyr y rhaglen gael ar ddeall ei fod yn siarad
Cymraeg fe aeth y diwrnod yn ddyddiau ac yn wythnosau, gan gynnwys ambell ddarn siarad. Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach mae o'n dal i fod yno.
Mae 'na duedd efo actorion operâu sebon iddyn nhw fod yn actorion un rhaglen, ond nid felly Gwynfor gan ei fod wedi bod yn ecstra ar nifer o gynyrchiadau gan gynnwys Casualty, Emmerdale, Crossroads a nifer o rai Cymraeg fel Rargian Pawr efo Gari Williams.
Fe wnaeth o Rargian Pawr tra roedd o yng Nghaernarfon cyn mynd lawr i Gaerdydd, dros ugain mlynedd yn ôl. Bellach, wrth gwrs, mae o'n wyneb cyfarwydd iawn ar Pobol y Cwm a'r tro nesaf y byddwch yn gwylio mae 'na gyfle go dda y cewch chi gipolwg ar un o hogia dre.
|