Llynedd, roedd 'na dros ugain o blant yn yr Ysgol Feithrin ond, hyd yn hyn eleni, dim ond rhyw bedwar sydd yno. Er bod Kieran ac Osian wrth eu bodd yn chwarae efo'r clai a'r llwyth o deganau, fe fyddai'n braf iddyn nhw gael mwy o gwmni. Dim ond £2.50 y sesiwn mae'n gostio ac mae'r lle ar agor rhwng 9.30 a 12.00. Hefyd, mae Amanda Davies yn rhedeg cylch Mam a'i Phlentyn bob bore Llun a bore Iau. Christine Fern, Jennifer Williams a Gwen Williams sy'n gofalu am blant yr ysgol feithrin ac maen nhw'n gwneud cwrs un bore yr wythnos yng Ngholeg Menai yn Llangefni i ennill diploma. Llynedd, ar ddiwedd y tymor trefnodd y mamau daith gerdded o'r dre i Felinheli i godi pres. Hefyd, fe gawson nhw noson gwin a chaws i'r rhieni yn yr ysgol ac ar y noson, cafodd y plant dystysgrifau a gwisgo'r capiau graddio roedden nhw wedi'u gwneud eu hunain. Felly, os oes gynnoch chi blant bach fyddai'n mwynhau mynd i Benrallt yn y bore, ffoniwch Jennifer ar 675826.
|