Yn y criw ddaeth at ei gilydd i Cofi Roc i ddathlu'r achlysur roedd Dafydd Jones Morris, cyfarwyddwr rhanbarthol y Gwasanaeth Ambiwlans. "Dan ni'n gythreulig o fa1ch," meddai dros ei banad. "Dyma'r hofrennydd mwya diweddar fedri di ei gael."
Mae'r hofrennydd yn gallu cludo claf i ysbyty o unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud, sy'n gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng byw neu farw. Mae'n costio £1 miliwn i gynnal y canolfannau yn y De, y Gogledd a'r Canolbarth, felly cofiwch ddal i gefnogi siop yr Ambiwlans Awyr yn Stryd Fawr! Yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans sy'n talu am y parafeddygon.
Un o'r parafeddygon hynny gyda'r criw yn Ninas Dinlle ydi Irfon Davies, ac mi ddiolchodd o ar ran y criw i bobol y Gogledd am eu cefnogaeth. "Heddiw dan ni angen eich cefnogaeth chi, ond fory ella mai chi fydd angen ein cymorth ni."
|