´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Gareth Warburton Paratoi at Melbourne
Ionawr 2006
Gŵyl a gwaith i Gareth
Mae'n fore oer iawn. Mae barrug ar y trac rhedeg yn Nhreborth. Ac mae Gareth Warburton gartref dros y Nadolig.
Ond er gwaetha'r 'gwyliau' mae'n ymarfer ar ei ben ei hun bach yng nghysgod Pont Britannia. Dyna ymroddiad athletwr llawn amser, sef yr hyn ydy Gareth, o Gae Gwyn, ers gorffen ei gwrs coleg yn UWIC, Caerdydd.

Ag yntau wedi ei ddewis i dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad ym Melbourne, Awstralia ym mis Mawrth prin bod 'na ddiwrnod yn pasio pan nad ydy Gareth yn ymarfer.

Gareth ar y trac "Dwi'n g'neud tua tair neu bedair awr bob dydd," meddai Gareth, "weithiau ar y trac, weithiau yn y gym neu dipyn o'r ddau." Yr ymroddiad yna sydd wedi ei ddyrchafu i fod yn un o redwyr 400 metr gorau Gwledydd Prydain. Cynrychiolodd Gymru a Phrydain yn barod a theithiodd ledled Ewrop yn rhedeg. Bu yn Norwy, Slofacia, Portiwgal, Hwngari a Sbaen i enwi dim ond rhai o'r gwledydd yr ymwelodd â nhw.

"Mae'n gallu bod yn galed iawn," meddai, "yn enwedig ar dy ben dy hun fel hyn. Pan dwi yng Nghaerdydd mae na ryw ugian ohonan ni, ac mae ganddon ni gyfleusterau dan do hefyd. Ond ar fora rhewllyd fel hyn mae'n gallu bod yn unig iawn ac mae isho lot o fynadd."

Darryl Maynard ydy ei hyfforddwr llawn amser ond pan fydd o adra fe gaiff help Gethin Thomas, athro yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Ond yn Ysgol Syr Hugh y cychwynnodd redeg, dan oruchwyliaeth ei athro ymarfer corff, Ieuan Jones. Roedd Gareth, sy'n 22 oed, yn chwarae rygbi i'r ysgol hefyd - ar yr asgell wrth gwrs! A chan ei fod dros ei ddwylath ac yn gyflym fe ddatblygodd yn naturiol i fod yn wibiwr penigamp.

Ei nod ym Melbourne ydy cyrraedd y ffeinal yn y ras unigol ond, os gall fod yn un o'r pedwar yn y ras gyfnewid, mae siawns gwirioneddol am fedal. Wedi'r cyfan mae o mewn cwmni da ac yn ymladd am le naill ai Iwan Thomas, Tim Benjamin, M Elias neu Rhys Williams.

O gyrraedd y nod mi fydd yr oriau yn Nhreborth wedi talu ar eu canfed. (Mae cynrychioli Cymru yn waith drud. Os oes na fusnes lleol ffansi noddi Gareth cysylltwch â Papur Dre.)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý