´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Ffair ar y maes Trannoeth y Ffair
Ionawr 2007
Fe fu hi'n Ddolig a Chalan ychydig mwy bywiog na'r arfer yn Dre.
Bu'r sgrîn fawr a drefnwyd gan Gwmni Cyffro yn hynod o boblogaidd a phawb yn canmol yr eitemau a'r datganiadau a welwyd ar y sgrîn yn Sgwâr Pendist ac ar y Maes.

'Mi gawsom ni ymateb da iawn gan y cyhoedd a phobl busnes y Dre,' meddai Bob Anderson o Gwmni Cyffro.

Roedd y sgrîn wedi costio £3,500 i'w llogi - gwerth bob dimai, yn ôl Bob.

Cafodd y 'Ffair Nadolig' gryn groeso hefyd, ac er ei bod wedi bod yn bwrw'n drwm am ddeuddydd roedd y perchennog yn ddigon bodlon.

Teulu Jan de Koneing o Wrecsam oedd yn cynnal y ffair - teulu sydd a chysylltiad â Chaernarfon ers blynyddoedd lawer. Nhw arferai gynnal ffeiriau yn yr Hen Bafiliwn erstalwm.

Ac mae Bob yn ffyddiog y byddan nhw'n chwarae ambell CD o ganeuon Nadoligaidd Cymraeg os byddan nhw yma Dolig nesa hefyd!

Bydd union drefn y Dolig nesa, fodd bynnag, yn cael ei benderfynu ar ôl i Cyffro gynnal arolwg ac ymgynghori ymhellach a'r cyhoedd a busnesau'r Dre.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý