Mae'r Amgueddfa wedi cau am y gaeaf, a chynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ymddiriedolaeth Seiont II ychydig wythnosau yn ôl.
Mae rhedeg yr Amgueddfa yn creu colled sylweddol pob blwyddyn i'r Ymddiriedolaeth ac fe fyddai wedi cau ers rhai blynyddoedd oni bai am haelioni un cyn aelod a adawodd swm yn ei ewyllys tuag at ddatblygu'r Amgueddfa, ac hefyd cyfraniadau blynyddol y Cyngor Tref.
Er hyn bu'r costau tua £650 yn uwch na'r enillion
yn 2009.
Oes gan ddarllenwyr Papur Dre eisiau i ni gario ymlaen gyda'r gwaith? Pan wnaethpwyd apêl yn yr Herald rhyw ddwy flynedd yn ôl yr
unig ymateb oedd gan (y diweddar erbyn hyn) Dic Trefor o Ganada!
Er y trafferthion ariannol, penderfynwyd agor eto am dymor yr haf 2010 - o ddiwedd Mai tan canol Medi.
Ar hyn o bryd, yn ogystal a gofyn am gefnogaeth ariannol sylweddol (noddwyr efallai?), rydym yn brin o swyddogion i gynorthwyo gyda'r gwaith o
redeg yr Amgueddfa.
Os oes rhywun am ei helpu buaswn yn ddiolchgar pe byddent yn cysylltu a mi ar 01286 675194.
Diolch yn fawr
D Rhys Prytherch (Cadeirydd)
|