´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Gareth Thirsk a Neil Hesketh Taro 12 mewn gêm 13
Tachwedd 2004
Efallai mai ar y Morfa ac ar gaeau Syr Hugh y buodd y ddau chwaraewr rygbi yma yn dysgu eu crefft ond mae Gareth Thirsk a Neil Hesketh bellach yn llwyddo ar gaeau rygbi'r gynghrair, y gêm tri ar ddeg bob ochr.

Mae'r ddau newydd fod yn y de ar gyfer treialon Tîm Rygbi'r Gynghrair Myfyrwyr Cymru, lle llwyddodd Gareth i gael ei ddewis i'r garfan genedlaethol o 35.

Mae o rŵan yn croesi'i fysedd y caiff o'i ddewis i chwarae yn erbyn myfyrwyr Awstralia cyn bo hir. Mae Gareth a Neil - y ddau yn 21 oed - hefyd yn chwaraewyr amlwg i Dîm Prifysgol Leeds Metropolitan, lle maen nhw'n astudio ar hyn o bryd. Mae'r tîm wedi cyrraedd tair rownd derfynol genedlaethol yn olynol, a Gareth yn cael ei enwebu'n Chwaraewr y Flwyddyn ar gyfer 2002-2003.

Er bod y ddau wedi hen arfer chwarae i dîm Caernarfon - sef gêm yr Undeb, wrth gwrs - roedden nhw'n teimlo nad oedd y tîm 15 bob ochr yn Leeds yn rhoi cyfle teg i chwaraewyr. Dyna pam aethon nhw i chwarae gêm y Gynghrair.

Nid dyma'r tro cyntaf i Gareth ymddangos yn y treialon. Mi gafodd ei ddewis llynedd ond cael ei daro yn anymwybodol ar ôl 10 munud fu ei hanes o'r adeg honno a gorfod rhoi'r gorau iddi! Drwy lwc, mi ddaeth Gareth a Neil drwyddi yn ddianaf y tro hwn.

Does yna'r un ohonyn nhw'n rhy siŵr be' maen nhw am ei wneud yn y dyfodol - ond y newyddion da i Gaernarfon ydi mai dychwelyd i'r Morfa fydd rhaid os down nhw yn ôl i Dre - os gwna hogia'r clwb rygbi eu derbyn nhw wrth gwrs!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý