´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
John a Dic gyda'r gadair Cadair y Brifwyl
Chwefror 2005
Cyfraniad Dau Frawd
Wyddoch chwi fod yna gysylltiad clos rhwng dau o feibion Gwindy Llecheiddior, Bryncir, a chadair Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005?
John Meurig Parry, sydd bellach yn byw ger Morfa Bychan, sydd wedi dylunio a saernio'r gadair, a Dic ei frawd, sy'n parhau i fyw a ffermio yn y Gwindy, fydd yn ei chyflwyno i'r Eisteddfod, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaernarfon.

Aeth tair blynedd heibio ers i Bwyllgor Gwaith yr Undeb benderfynu noddi'r gadair, ac anfonwyd at golegau ac ysgolion i wahodd ceisiadau. Gan fod cynllun ei frawd mawr ymysg y ddau gynllun manwl a ddaeth i law, bu'n rhaid i Dic, a oedd yn Is-Gadeirydd ar y pryd, ymatal o'r broses ddethol.

Er nad oedd John wedi cynllunio cadair eisteddfodol fawr o'r blaen, ei gynllun trawiadol ef a apeliodd fwyaf ac a dderbyniodd sêl bendith yr Eisteddfod.

Bu John yn ymddiddori yng ngwaith y saer ers pan oedd yn hogyn ifanc, ac mae ei ddyled yn fawr, meddai, i Wyn Jones, Penbryn, Garndolbenmaen ei gyn-athro yn Ysgol Eifionydd. Ar ôl hyfforddi yn y Coleg Normal, Bangor treuliodd 34 mlynedd fel athro Gwaith Coed; i ddechrau yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, yna yn Ysgol Y Berwyn, Y Bala, cyn dychwelyd i'w hen ysgol yn y Port.

Llwyn Derw, ei gartref, a ysbrydolodd gynllun y gadair, gan fod y tŷ, a llawer o'r celfi sydd ynddo, yn deillio o'r cyfuod Art Nouveau: mudiad pensaernïol oedd yn ei fri, ym Mharis ac ar y cyfandir yn bennaf, rhwng 1892 a blynyddoedd cynharaf yr ugeinfed ganrif. Gellir gweld y llinellau troellog, sydd mor nodweddiadol o'r arddull hwn, yn blaen ym mhren golau'r gadair.

I wneud y gadair roedd yn rhaid cael pren derw o drwch arbennig wedi ei sychu mewn odyn, a chan nad oedd pren o'r fath i'w gael yn lleol, bu'n rhaid teithio i Feifod, cartref Eisteddfod 2003, i gael y deunydd crai.

Cwblhaodd John y rhan fwyaf o'r gwaith yn ystod misoedd Medi a Hydref y llynedd ac, wrth gwrs, bu'n rhaid addasu rhywfaint ar y cynllun i gyd-fynd â ffurf a graen unigryw y pren.

Ar hyn o bryd, mae rhannau uchaf y gadair yng ngweithdy Martin Wenham ym Mangor, ble mae'r llythrennwr yn naddu a phaentio enw'r eisteddfod, y flwyddyn a'r nod cyfrin arnynt. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Joyce Jones, Cricieth yn pwytho dyluniad arwyddocaol ar ledr y sedd, ac mae John yn gobeithio y bydd y rhannau wedi eu huno a'r gadair wedi ei chwblhau erbyn Y Pasg.

Yn amlwg, mae Dic yn ymfalchïo yng ngwaith ei frawd, ac yn edrych ymlaen at gyflwyno'r gadair orffenedig. Mae'n gyd-ddigwyddiad hapus fod dau frawd wedi chwarae rhan mor allweddol yn natblygiad cadair Eisteddfod Genedlaethol Eryri.

Edrychwn ymlaen i weld y gadair ddeniadol ar lwyfan y Brifwyl, gan obeithio'n fawr y bydd teilyngdod yng nghystadleuaeth Yr Awdl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý