Roedd y gweithwyr, o gwmni L Sturrs a'i Feibion o Bethesda, yn codi'r hen lwybrau troed concrid i'r gogledd ddwyrain o'r eglwys pan ddaethpwyd ar draws yr esgyrn. Galwyd am yr heddlu, oedd yn amau o weld eu cyflwr eu bod yn sicr dros ganrif oed er bod y llwybr concrid wedi cael ei osod yno yn ystod saithdegau'r ganrif ddiwethaf.
Cafodd yr esgyrn eu casglu yn ofalus a'u hanfon at arbenigwyr ym Mhrifysgol Dundee i gael eu dyddio. Mae eu canlyniadau wedi dod i law ac yn profi mai esgyrn gwr ifanc yn ei ugeiniau a hen wreigan ydyn nhw, ond er eu bod yn gwybod yn bendant bod yr esgyrn yn ganrifoedd oed, mae'n amhosib dweud pa bryd yn union y bu'r ddau farw heb rhagor o brofion dwys.
Mae'r esgyrn bellach yn ôl yn Llanaelhaearn ac mae'r Canon Idris Thomas wedi eu cadw yn ofalus yn uno â chanllawiau yr heddlu. Mi fyddan nhw yn cael eu claddu ganddo mewn gwasanaeth arbennig unwaith bydd y gwaith ar y fynwent yn darfod. "Mae wedi bod yn brofiad rhyfedd gweld yr esgyrn yn dod i'r wyneb," meddai'r Canon Thomas, "oherwydd mai rhywun yn meddwl yn syth y gallan 'nhw fod yn bererinion ar eu ffordd i Enlli.
"Da ni'n gwybod bod llawer yn y Canol Oesoedd yn cael eu claddu mor agos ac oedd hi'n bosib at waliau'r Eglwys felly tydi hyn ddim yn amhosib gan fod yr Eglwys ar lwybr y Pererinion."
|