´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Mair Parry Llenor ifanc
Ebrill 2010
Am naw mlynedd ar hugain y bu Mair Parry, Gwindy Llecheiddior, Bryncir yn aros am gyfle i dderbyn Tlws yr Ifanc ar lwyfan eisteddfod Y Ffor.

Enillodd y tlws yn 1981, ond oherwydd cnwd o eira methodd a chael y car i'r lon a chollodd y seremoni.

Enillydd Tlws yr Ifanc yn y Ffôr nos Sadwrn diwethaf oedd ei mab, Gwilym Dwyfor, a chyd-ddigwyddiad oedd iddo yntau fethu a bod yno hefyd.

Nid eira na llwch o Wlad yr îa a'i rhwystrodd ond ei waith rhan-amser yng Nghaerdydd.

Fe'i cynrychiolwyd gan ei fam.

Hyfryd hefyd oedd gweld Dic ei dad yno yn dilyn ei lawdriniaeth.

Yn ôl y Prifardd Twm Morys, y beirniad, 'roedd y gystadleuaeth yn un galonogol iawn o ran niferoedd ac o ran safon.

Ceid digon o wreiddioldeb a mentr yn y cyfansoddiadau.

Stori am ŵr ifanc yn bysgio a ddaeth a Gwilym Dwyfor i'r brig.

'Roedd y beirniad wedi cymryd ati yn arw. Yn un peth, soniai am ffordd o fyw y bu ef ei hun yn ei 'how-ddilyn' ar un adeg, ond na welsai erioed ddim wedi ei sgwcnnu amdani o'r blaen.

Disgrifid y bywyd hwnnw, ei hwyl a'i siom a'i droeon trwstan yn gywir - ac roedd yn stori wedi ei hysgrifennu'n dda iawn.

'Wil' (er cof am W.S. ei daid tybed?) oedd ffugenw Gwilym Dwyfor, sy'n 22 oed.

Graddiodd yn y Gymraeg yng Nghaerdydd y llynedd ac mae'n awr yn dilyn cwrs M.A. mewn ysgrifennu creadigol a gwerthu hufen îa Cadwaladars yn rhan amser yn y brifddinas.

Rhoddwyd y wobr ariannol o £30 gan gwmni drama Llwyndyrys. Gwilym a enillodd ar y stori fer hefyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý