Y
briodferch oedd Pascale Delafouge Jones o Garndolbenmaen gynt a gafodd sylw mawr gan y cyfryngau pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Eifionydd.
Hi, yn dair ar ddeg oed, oedd seren y ffilm 'Elenya' a adroddai hanes geneth ifanc yn dod o hyd i beilot Almaenig mewn coedwig a gofalu amdano ar y slei.
Maes o law graddiodd Pascale mewn Hanes yn Rhydychen ac ymfudodd i Ffrainc yn 2001. Yno y cyfarfu a Claude Hersog, ei gŵr erbyn hyn. Mae ef yn ddinesydd Ffrengig ond Sbaenwyr yw ei rieni. Bu'n rhaid i'w dad ddianc o Sbaen ar ôl y Rhyfel Cartref yn y tridegau i osgoi Franco a'i griw.
Er iddo gael ei eni yn Ffrainc mae gwreiddiau teuluol Claude yn nhueddau Cordoba yn Sbaen a phenderfynwyd, o'r herwydd, gynnal y briodas yn rhanbarth Andalusia o'r wlad honno.
Daeth yno gynrychiolaeth gref o deulu a ffrindiau Pascale, nifer o'i chyn-gyd-fyfyrwyr, a pherthnasau lawer i'r ddau o Ffrainc a Sbaen, gan gynnwys nain a thaid Pasale, o ochr ei mam, sy'n byw yn Sete.
Y mae Pascale a Claude yn berchen tŷ bwyta yn y dref honno ar lan Môr y Canoldir. O'r Pasg hyd ddiwedd Medi y mae hwnnw'n agored, ac yna, yn ystod y gaeaf, y mae Pascale yn teithio ledled Ewrop yn gwerthu gwin a gynhyrchir gan ffrind yn Clermont L 'Herault, yn nhalaith Languedog. Treulia Claude y gaeaf yn ei siop lyfrau a phapurau newydd sydd dan ofal ei frawd-yng-nghyfraith.
Yn Sbaeneg y cynhaliwyd y seremoni briodasol gyda darlleniadau yn Ffrangeg a Saesneg - ac yn Gymraeg gan Elen, chwaer Pascale, un o'r morynion.
|