Adnewyddwyd yr hen 'Gaffi Noddfa', a saif ar ochr y lôn fawr rhwng Glandwyfach a Dolbenmaen, a bellach mae yno fwyty Indiaidd newydd sbon danlli o'r enw 'Madiha', sy'n arbenigo ym mwydydd traddodiadol ardal Bengal.Ond beth yw ystyr yr enw, tybed? Wel, yn ôl Mohammed Khan, rheolwr y bwyty, tywysoges Indiaidd oedd Madiha ac fe hoffai perchennog y bwyty yr enw cymaint nes iddo alw ei ferch a'i fwyty ar ei hôl.
Un o gyffiniau Oldham ger Manceinion yw Mr Raja, y perchennog, ac yn ogystal â bod yn berchen ar fwytai yn yr ardal honno, mae ganddo fwytai eraill yn agosach at Eifionydd - un ym Mhwllheli ac un ym Mhontrug, ac mae ar fin agor bwyty arall ar safle 'Y Mownt' yn Ninas, Llanwnda.
Un o Oldham yw Mohammed hefyd, ac mae eisoes wedi treulio deng mlynedd mewn bwytai yn dysgu'i grefft. Ar hyn o bryd mae yna bump yn gweithio yn y bwyty, ond mawr obeithia Mohammed y gall gyflogi pobl leol yn fuan, fel bydd pethau'n prysuro yn Madiha.
Mae dwy ystafell yn y bwyty a digon o le yno i griwiau mawr o bobl. Fe'i haddurnwyd â phren a phaent golau, gyda chadeiriau coch a melyn o gwmpas y byrddau.
Yn y cefndir clywir seiniau cerddoriaeth Indiaidd draddodiadol a difyr yw gwrando ar y staff yn parablu gyda'i gilydd mewn Wrdu a Bengali.
Yn ogystal â chynnig gwasanaeth ciniawa, mae'n bosibl archebu bwyd parod oddi yno, un ai yn y cnawd neu dros y ffôn.
Dywed Mohammed fod y gwasanaeth hwn yn hynod o boblogaidd o 5.30 y.h. ymlaen, nes bydd y bwyty ei hun yn dechrau prysuro o 7 o'r gloch ymlaen. Gan fod y bwyty wedi ei drwyddedu, gellir mwynhau potelaid o win neu wydraid o gwrw gyda'r cyrri.
Mae yna gyrri o bob lliw, llun ac enw ar y fwydlen: o'r Findalŵ poethaf i'r Corma mwyaf gwan ei flas. Ond nid busnas syml mo'u coginio, gan mai'r dull coginio sy'n dylanwadu fwyaf ar eu blas.
Mae cogyddion Madiha yn arbenigo yn y dull Tandŵri, ble caiff y cig ei biclo mewn amrywiol berlysiau, cyn ei goginio mewn popty clai pwrpasol. Caiff pob cyrri Balti ei goginio mewn padell haearnac, yn ôl Mohammed, dyma gyrri mwyaf poblogaidd y fwydlen hyd yn hyn, ynghyd â Chicken Tikka Massala.
Os oes awydd pryd gwahanol ei flas arnoch, a hynny heb deithio ymhell o'ch cartref, galwch heibio'r Garn; mae'r cwsmeriaid lleol y siaradodd Y Ffynnon â hwynt hyd yn hyn yn canmol y bwyd a'r prisiau rhesymol yn arw.