´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Cantorion Dyffryn Conwy Taith i'r Iwerddon
Chwefror 2009
Mae'r parti carolau yn dod at ei gilydd i ddechrau ymarfer tua canol mis Hydref fel arfer ac yn festri Bryn Ebeneser a Church House, Glan Conwy y cynhaliwyd yr ymarferion eleni dan arweiniad Chris Roberts.

Ymwelodd y côr a nifer fawr o wahanol ardaloedd a chael derbyniad gwresog bob tro.

Cychwynnwyd yn Hebron, Hen Golwyn yna i Gapel Scot, Llanrwst ac Eglwys St Michael, Conwy. Treuliwyd p'nawn Sadwrn a'r Sul yn Plas Newydd, Ynys Môn ac yna yn St Martin, Eglwysbach, Noddfa, Penmaenmawr a Bryn Corach, Conwy.

Uchafbwynt y perfformio oedd trip i'r Iwerddon ddechrau'r flwyddyn a hwylio o Gaergybi i Ddulyn ac aros mewn gwesty cyfforddus yng nghanol y ddinas.

Cafwyd taith yn y bws, bws Alpine a galw ym mhentref Aloca lle y ffilmiwyd y rhaglen deledu boblogaidd Ballykissangel y diwrnod canlynol, cyn teithio'n ôl i Ddulyn a mwynhau golygfeydd arbennig mynyddoedd Wicklow ar y ffordd.

Cynhaliwyd cyngerdd carolau yn Eglwys y Bedyddwyr Contraf, ar gyrion Dulyn ac hefyd cymerwyd rhan yn y gwasanaeth bore Sul.

Ar ôl segura ychydig mewn castell oedd wedi ei addasu yn westy daeth yn amser i fynd yn ôl i'r bws a dal y fferi yn ôl i Gaergybi.

Cafwyd penwythnos i'w chofio ac mae'r aelodau yn diolch o galon i Chris Roberts am ei waith diflino efo'r côr, i Terry am drefnu'r penwythnos ac i Bob, gyrrwr y bws.

Bydd yr arian gasglwyd yn mynd i gronfa TÅ· Gobaith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý