Nid yw hynny'n dweud fod popeth yn dda ac y medrir anghofio'r erledigaeth a gafodd cefn gwlad ar diwydiant amaeth gan y criw Llafur presennol. Mae'r erlid yn parhau.A hithau'n awr yn ddyddiau olaf Mehefin, er llawer o drafod ar ddiwygio'r Polisi Amaeth Cyffredinol, methodd y gwleidyddion a Fischler a chael cyfaddawd derbyniol i bawb. Yr hyn sy'n debygol o ddigwydd felly yw'r cyfaddawd nad yw'n plesio neb, rhyw lobsgows o gytundeb yn cyfuno'r gwahanol agweddau o bob carfan yn Ewrop unedig.
Yn sicr mae'r gobaith o weithredu cynllun Fischler yn ei gyfanrwydd yn annhebygol o gael ei wireddu. Yn unol 芒 pholisi Prydain ers sawl blwyddyn, roedd Llafur, heb ystyried pa niwed a wnaent i'r economi wledig. Mae Ffrainc ac Iwerddon yn arbennig, a'r Almaen i raddau llai, yn gwrthwynebu'r pecyn yn chwyrn oherwydd y difrod posibl i'r economi wledig.O na chaem lywodraeth a roes economi cefn gwlad yn gyntaf, ail ac yn drydydd.
Y cyfaddawd posib fydd, fel y cyfeiriais rhyw lobsgows o bolisi, datgysylltu rhywfaint o'r taliadau a pharhau 芒'r drefn bresennol gyda'r gweddill. Dim s么n am flwyddyn sail hyd yn hyn, hynny'n gwneud dim lles, oherwydd ei fod yn ymestyn ansicrwydd gyda rhai ffermwyr yn fodlon hap-chwarae gyda'r diwydiant.
Fe all y bydd gennym gyfaddawd erbyn y gw锚l y geiriau hyn olau dydd; os na bydd cyfaddawd, yna ni welaf unrhyw newid i'r Polisi Amaeth ar gyfer 2004. Rwy'n cofio flynyddoedd yn 么l clywed rhyw sylwebydd amaethyddol yn datgan fod angen da amaeth o wleidyddiaeth a gwleidyddion. Ni fu hynny erioed mor wir na'r cyfnod presennol.
Cyhoeddodd Gordon Brown na fydd inni fod yn rhan o'r Euro ar hyn o bryd. Fel y gwelwn bethau heddiw, nid yw hynny'n ddrwg i gyd. Ydi mae'r bunt wedi gwanhau yn erbyn yr Euro - a da hynny. Eisoes mae rhagolygon gwell i allforion cig oen ac yn y blaen. Ond heb os, i fod yn rhan o gyfundrefn barhaol a all gynnal yr economi'n gyffredinol mae angen i'r bunt fod yn wanach eto. Mae angen i'r bunt fod mewn sefyllfa lle y gellir cynnal yr economi o flwyddyn i flwyddyn; ac i hynny fod yn dderbyniol i amaethyddiaeth ar gyfer mewnforion ac allforion mae angen peth gwanhau eto ar y bunt.
Nid yw hyn ond un o'r pump pwynt perthnasol, ond un sy'n hollol hanfodol i'r economi wledig. Credaf yn gryf mai ynghanol Ewrop mae ein lle, a hynny'n fuan; ond nid heb gael y telerau cywir.
O s么n am fewnforion, a welsoch chi'r rhaglen Panorama yn ddiweddar pan drafodwyd cig cywion yn dod i mewn i Brydain o'r Iseldiroedd? Dyma enghreifftiau o safonau dwbl y wladwriaeth Brydeinig a llawer o'r dinasyddion hefyd. Mae rhwydd hynt i roi cig cyw o unrhyw safon i blant Ysgol Dyffryn Conwy; ond nid yw cynnyrch cynhenid y dyffryn, sef cig oen a chig eidion yn ddigon iach a llesol iddynt.
Rwyf wedi dweud o'r blaen, ac fe'i dywedaf eto, mae angen rhoi'r cig oen ac eidion gorau posibl i'n plant yn yr ysgolion. Dyma'r buddsoddiad gorau y medrai'r diwydiant amaeth ei wneud er lles ei hunan ac er lles plant Cymru. Mae dau beth yn rhwystr yn fy marn i. Mae diffyg brwdfrydedd gan swyddogion cyflogedig ein Cynghorau Sir. Mae'n weladwy amlwg o fewn y sir hon. Mae angen ysgubo'r cyfryw rai o'u swyddi am annog bwyta sothach o gig fel y gwelwyd ar Panorama. Mae angen llawer mwy o benderfyniad a brwdfrydedd gan y diwydiant amaeth ei hunan i alluogi rhoi'r cig gorau i'n plant am bris cig is ei safon. Dyma fuddsoddiad pen ei gamp yn iechyd ein plant, ac yn economi bwysicaf cefn gwlad o hyd - amaeth.
Hwyl tros yr haf a chofiwch fynd i sioe neu ddwy.
Gwyn Williams.