´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Carl Mason yn derbyn y gwpan gan Brenda Wyn Evans Cwpan Ryder yng Nghonwy
Gorffennaf 2007
Mae digwyddiadau neilltuol, poblogaidd, yn naturiol yn denu sylw gwylwyr a darllenwyr at y mannau lle cynhelir nhw.
Yn aml, mae'r digwyddiadau neu'r gwyliau yma yn rhai sefydlog a'r lleoliadau'n rhai cyfarwydd iawn erbyn hyn.

Ar y llaw arall, mae dieithrwch a newydd-deb 'maes y gad' yn apelio at wylwyr ac yn ychwanegu at y diddordeb.

Nid dyma'r tro cyntaf i un o gystadlaethau pwysicaf Cymru, neu'n wir Prydain ac Ewrop, gael eu cynnal ar Forfa Conwy a rhwng Mehefin 15fed a'r 17eg eleni yma y cynhaliwyd Pencampwriaeth Agored Chwaraewyr HÅ·n Ewrop.

Daeth rhai o chwaraewyr gorau'r byd yma, enwau cyfarwydd fel Bob Charles, Neil Coles, Sam Torrance, Des Smyth, Tommy Rorton, Eamon Darcy, Constantino Rocca a Jose Rivero, ynghyd ag amryw eraill. Doedd dim diwedd ar eu canmoliaeth i gyflwr a safon y cwrs na chwaith i'r gefnogaeth a gafodd y digwyddiad.

Roedd y cannoedd ddaeth i gefnogi yn Carl Mason yn cyrraedd y deunawfed lawnt yn dystiolaeth i hyn.

Ond cyn bwysiced â dim, efallai, mae'r ffaith fod teledu lloeren wedi neilltuo awr o raglen i ddangos y cyfan yn golygu bod Conwy a'i chwrs golff enwog wedi cael sylw dros y byd.

Carl Mason enillodd, ond profodd y daith o dwll i dwll dros dwyni aber afon Conwy yn gryn sialens hyd yn oed i'r dewrion hyn.

I'r saith deg pump o gystadleuwyr dim ond saith chwaraewr oedd yn well na 'par' ar ddiwedd tair rownd. Felly mae'n deg dweud mai Morfa Conwy oedd yn fuddugol mewn gwirionedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý