Mae'r Eisteddfod yma! Mai 2008 Mae fferm Gloddaeth lsaf yn lleoliad ardderchog i gyffro a chynnwrf gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.
Cyfarchion cadeirydd y pwyllgor gwaith, Dilwyn Price
Ers y penderfyniad i wahodd Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd i Gonwy yn ôl ym mis lonawr 2006 rydym wedi bod yn aros yn eiddgar am y diwrnod pan gawn groesawu'r garafan gyntaf, y cystadleuydd cyntaf a'r ymwelydd cyntaf.
Trefnodd y pwyllgorau lleol lu o weithgareddau codi arian wrth iddynt ymdrechu i gyfarfod a tharged sir heriol o £230,000. Trwy eich ymdrechion a'ch haelioni rwy'n hynod falch o'ch hysbysu ein bod eisoes wedi codi £200,000 ac mae nifer o bwyllgorau'n parhau i drefnu gweithgareddau.
Braint ac anrhydedd yw cael bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf cawsom fwynhau cyngherddau rhagorol, cawsom fwyta'n siâr o gacennau blasus ac yfed litrau dirifedi o goffi. Buom yn cerdded sawl milltir noddedig a chwarae sawl gem bingo. Cawsom fynychu sawl cinio cyhoeddus a phrydau arbennig, a chyfarfod lIu o bobl oedd yn ysu i brynu ticed raffl gennym!
Diolch i chi oll am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod sy'n arwain tuag at yr Eisteddfod. Diolch i'r rhai hynny a wirfoddolodd i stiwardio yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac i'r holl athrawon a'r tiwtoriaid sydd wedi gweithio mor galed gyda'r plant a'r bobl ifanc fydd yn cynrychioli Conwy.
Pob lwc i'n cystadleuwyr i gyd. Gobeithio y cewch flasu llwyddiant.
I bawb arall - dewch da chi i brofi chwe diwrnod o gystadlu brwd. Dewch i brofi gwefr y cyngherddau nos sy'n ddathliad o amryfal dalentau plant a phobl ifanc Conwy. Mae gwledd o adloniant yn eich aros - y gorau y gall Cymru ei gynnig - a hynny o fewn cyrraedd hwylus.
Rydym hyd yn oed wedi llwyddo i drefnu tywydd hyfryd i wneud eich ymweliad yn fythgofiadwy.
Gallaf eich sicrhau na fydd unrhyw un yn swnian arnoch i brynu
tocynnau raffl am amser maith , o leiaf hyd nes y gwahoddir yr
Eisteddfod yn ôl i Gonwy y tro nesaf!!!