´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Agor y siop. Angharad Booth-Taylor a Frances yn helpu. Bett Doroshenko yn un o'r cwsmeriaid cyntaf. Siop y Pentref yn ailagor
Rhagfyr 2005
Am tua blwyddyn a hanner ar ôl i'r siop a'r post yn Eglwys Bach gau y drws gwelodd y pentref a'r ardal y golled gydag amryw yn mynd i Lan Conwy neu Dal y Cafn i nôl pethau fel papur newydd neu fara.
Roedd gan Angharad Booth-Taylor, Hiraethog, awydd helpu'r ardal, ac felly aeth ati i brynu Pen y Bont. Roedd dipyn o waith atgyweirio felly gwagiodd yr adeilad ac ail gychwyn hefo silffoedd newydd, gwaith trydan, garej, pob math o gêr i'r siop, llawer o gost, cyfweliadau o bob math a stocio'r silffoedd.

Roedd y siop yn barod a theulu'n rhentu gweddill y tÅ·. Ar fore braf, heulog ac oer dydd Llun Tachwedd 21ain fe agorodd y drws a bu'n brysur trwy'r dydd gyda phlant yr ysgol yn cael cyfle eto i brynu da da a chreision.

Daeth Gwyn Llywelyn a'i griw ffilmio yno ar gyfer y rhaglen 'Wedi Saith' a chafwyd sgwrs efo amryw ar y camera.

Rhaid peidio anghofio Frances Jones gan ei bod hithau yn helpu yn y siop a bod y Daily Post a'r Weekly News ar gael ganddi pan oedd y siop ar gau.

Ar un adeg roedd pump o siopau yn y llan sef siop Mrs Morgan - siop y Giât oedd hon - yna siop esgidiau Owen Williams, Stanley House ynghanol y llan, Siop Groser a Draper John Wili Lloyd a Siop y Cigydd sef siop Angharad Booth- Taylor rwan.

Mae pawb yn gwybod beth yw colli siop bentref, felly mae i fyny i'r ardal ei chefnogi yn y fenter fawr. Pob llwyddiant i Angharad a diolch. Diolch am siop yn agor yn lle cau o'r diwedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý