´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Paul Whitfield O Fryn Pydew i Wrecsam - Gyrfa Paul Whitfield
Tachwedd 2003
Cadarnhaodd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ddiweddar mai Paul Whitfield o Fryn Pydew yw ail ddewis y rheolwr, Denis Smith, sy'n golygu ei fod yn eilydd i'r profiadol Andy Dibble, sydd wedi chwarae i dîm cyntaf Cymru sawl gwaith.
Mae'n amlwg fod dyfodol disglair iawn o flaen Paul, sy'n hogyn ifanc, 21 mlwydd oed. Cafodd y cyfle eisoes i gynrychioli tîm cyntaf Wrecsam ugain gwaith.

Ganed Paul yn Llanelwy, cyn i'r teulu symud i Fryn Pydew. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Glanwydden, ac yna Ysgol John Bright, Llandudno, cyn dechrau ar ei yrfa, sydd erbyn hyn yn un broffesiynol.

Bachwyd ef gan Wrecsam pan oedd ond yn ddeg oed - digwyddiad yn dangos ei dalent amlwg. Yn ei gyfnod ysgol bu'n chwarae i glwb ieuenctid Bae Penrhyn ac i dîmau Ysgolion Aberconwy ym mhob oedran, a bob tro yn y gôl. Ni ddaeth chwarae mewn safle arall ar y cae i'w feddwl erioed. Er nad oedd ei deulu gyda diddordeb mewn pêl-droed, buont, bob amser, yn gefnogol iddo.

Yn naturiol, cafodd Paul y cyfle i chwarae i dîmau ifainc Cymru ar bob lefel. Mae'n awr wedi cyrraedd y brig, sef tîm Cymru dan 21 oed, yn erbyn Azerbaijan ar faes y Barri, Parc Jenner. Bu'n eistedd ar y fainc sawl gwaith, tros flwyddyn a hanner, a da oedd ei weld yn aelod o dîm a gurodd Azerbaijan o un gôl i ddim. Braf lawn i Paul oedd sicrhau rhwyd gwag.

Dywedodd hyfforddwr y tîm dan 21 oed, Jimmy Shoulder, fod Paul yn llwyr haeddu ei gyfle, ar ôl bod mor amyneddgar ar y fainc. Cyfeiriodd Shoulder at yr anaf fu'r llanc o Fryn Pydew yn ei ddioddef am fisoedd, a hynny heb gwyno. Ar ddiwedd y gêm yn y Barri, cafwyd ganddo arbediad rhagorol, digon meddai Jimmy Shoulder i brofi ei fod yn "gôl-geidwad rhyngwladol.

Pan oedd yr angen iddo brofi ei hun, gwnaeth hynny yn wirioneddol dda, ac ni ellir disgwyl mwy. "Gall y fath lwyddiant droi rhywun yn ben mawr, ond nid felly y mae hi gyda Paul. Cyfeiriodd at waith gwych ei hyfforddwr cyntaf, Grenville Millington, yn Wrecsam pan oedd ond deg oed. Yn hwyrach yn ei yrfa bu'n falch o gefnogaeth rhai fel Joey Jones, o Landudno, rheolwr yr ail dîm, Fred Davies, Mark Morris, ac yn ddiweddar, Andy Dibble, o'r tîm cyntaf, sy'n gweld Paul yn mynd ymlaen i dîm cyntaf Cymru, maes o law.

Soniodd hefyd am y pleser a'r anrhydedd o weithio gyda'r enwog Neville Southall, eto o Landudno. Ef yw arwr Paul yn y byd pêl-droed. Everton yw ei hoff dîm, a braf fyddai ei weld yn chwarae iddynt hwy yn y Brif Gynghrair.

Mae Paul wedi chwarae criced gyda thîm cyntaf Llandudno ac wedi bod yn ymwneud tipyn ag athletau hefyd, ond yn awr mae ei gytundeb pêl-droed yn ei gyfyngu i'r bêl gron. Dymunwn iddo ddyfodol disglair iawn; edrychwn ymlaen i weld y llanc o Fryn Pydew yn nhîm cyntaf Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý