Adeg y tripiau, y mabolgampau a'r chwaraeon ydi hi r诺an a phawb yn mwynhau cyn hamdden dros yr haf.
Mae
plant BI 6 yn barod wedi ymweld a'r Ysgol Uwchradd yn ddiweddar ac wedi cael rhywfaint o flas ar yr hyn fydd yn eu
hwynebu mis Medi.
Bu nifer helaeth o'r plant yn llwyddiannus
ym Mabolgampau Cylch yr Urdd ond yn anffodus, oherwydd y tywydd bu raid gohirio'r Mabolgampau Sirol.
Gresyn am hyn
ond ni allwn newid y tywydd!
Daeth t卯m p锚l-droed y merched yn fuddugol mewn twrnament a gynhaliwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones ganol y
mis.
Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
Mae PC Brian Jones
yn ymwelydd cyson a phob dosbarth yn yr ysgol ac yn trafod
amrywiaeth o destunau gyda'r plant gan gynnwys peryglon yn
y cartref, r么l yr Heddlu a sut i gysylltu a'r gwahanol wasanaethau argyfwng. Mae'r plant wrth eu bodd yn gwrando
ac yn cael cyfle i chwarae r么l drwy ddysgu agweddau holl卢
bwysig yr un pryd.
Mae'r dosbarthiadau i gyd wedi bod ar amrywiol ymweliadau yn ystod
y mis.
Y rhai cyntaf i deithio oedd plant BI 5 pan gawsant lawer iawn o hwyl yn sg茂o ac yn cael mynd ar dobogan yn Llandudno.
I Gelli Gyffwrdd yr aeth plant BI 3 a 4 gan fwynhau eu hunain yn fawr yn blasu'r amrywiaeth o weithgareddau a oedd yn cael eu cynnig yno ar eu cyfer.
Bl 1 a 2 oedd y rhai nesaf i fynd i S诺 Caer a phawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr yng nghanol yr anifeiliaid.
Mentrodd Bl 6 dros y m么r i'r Iwerddon gan ymweld a Dulyn. Dyma'r tro cyntaf i nifer ohonynt gael y cyfle i ymweld a'r Ynys Werdd ac roedd yn brofiad bythgofiadwy.
Aeth plant y Dosbarth Meithrin, y staff a'u rhieni i S诺 Bae Colwyn a'r plant wedi gwirioni'n l芒n ar gael trip mewn bws!
I Sbri M么n yr aeth y Dosbarth Derbyn ac roedd hyn yn brofiad newydd iddynt hwythau hefyd gan mai dyma'r tro cyntaf iddynt fynd allan ar drip o'r ysgol heb eu rhieni pawb wedi cael hwyl fawr!
|