Mae amryw yn cofio'n iawn fel yr oedd angen gwifren hir o gefn y di-wifr, drwy dwll yn ffr芒m y ffenestr agosaf ac yna drwy'r awyr i ben y polyn hiraf y gallasai rhywun ei gael a'i osod ym mhen pellaf yr ardd, a gwifren arall o agos yr un lle i beg copr pwrpasol wedi ei guro i'r pridd tan y ffenestr er mwyn daearu'r derbynnydd. Batri gwlyb ar ffurf potel yn mesur rhyw bedair modfedd ar ei thraws wrth naw modfedd o uchder, hwnnw'n dal dau bl芒t wedi eu gorchuddio mewn asid ac iddi glust haearn er hwyluso ei chario oedd prif darddiad yr ynni a fyddai ei angen i gael swn o'r di-wifr. Credaf fod un neu ddwy o'r math hwnnw o fatri ar gael ymhlith y creiriau yng nghyntedd Ysgol y Sarn heddiw. O dipyn i beth fe fyddai nerth y batri yn gwanhau, hynny yn 么l y defnydd a wnaed o'r derbynnydd. Byddai felly'n ofynnol cael dwy botel fatri, un yn y set, a'r llall mewn modurdy neu rhywle tebyg a gynigiai'r gwasanaeth o'i hail-fywhau. Siop Pentref yn y Sarn fyddai'r gyrchfan i ni, ac fe ellir ddychmygu'r drafferth a fyddai o'i chael yno o'm cartref ar gyrrau Traeth Dulas. Beic fyddai gennyf i'r gorchwyl wythnosol bron, a phur anodd fyddai ei farchogaeth hefo'r teclyn gwydr yn un llaw. Nid dyna ychwaith oll o anghenion y di-wifr gan y byddai angen batri mawr, fel y galwem ni y talp trwm o fatri sych a rhyw naw modfedd ysgw芒r a barhai am rhyw naw mis eto, yn 么l y defnydd a wnaed o'r set. Doedd rhywun ddim wedi gorffen ymorol wedyn ychwaith, am y byddai ambell dro angen adnewyddu batri sych arall, un fflat a elwid Gris Bias. Nid oes dwywaith amdani na fu dyfodiad y di-wifr yn gaffaeliad gwir werthfawr, yn enwedig i ni drigolion cefn gwlad ac fe sylwaf yn 么l y dangosiad am yr un a bwrcaswyd gan fy rhieni mai ym 1939 y daeth i'n ty ni am y tro cyntaf. Un o'r brodyr Evans a gadwai'r siop yn yr adeg a gofiaf, Ifans Beics y gelwid o a chofiaf i mi brynu fy meic newydd cyntaf yno. Hynny ar 么l i mi raddio o reidio'r sgrags a farchogem yn blant. Byddai nosau'r gaeaf wedi tueddu i lusgo 'mlaen yn araf braidd pe buasem heb y gallu i dderbyn darlleniad o adroddiad o nofel enwog T Rowland Hughes O Law i Law, sydd yn hanes hen lanc o chwarelwr yn dosbarthu dodrefn a chelfi ei gartref yn dilyn marwolaeth ei fam. I ni'r bobl ifanc ar y pryd roedd gwrando ar anturiaethau Gari Tryfan yn fuan wedi ein dychweliad o'r ysgol yn wledd nas anghofiwyd gennym. Gwrando ar wasanaeth crefyddol ar fore Sul fyddai uchafbwynt yr wythnos i amryw o'r to hynaf ac fe gaed hefyd raglen o rhyw chwarter awr ar nos Wener, honno eto'n grefyddol ei naws ond yn ysgafn a difyr. Anghofiwn i ddim chwaith mo'r Noson Lawen, hefo'i harwyr fel y Co Bach, Y Tri Thenor a Robert Roberts, Tai'r Felin a llu o rai eraill a roddasant fodd i fyw i ni yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel. Y cyfan yn dod i'n cartrefi drwy'r ddyfais werthfawr ond hynod o drafferthus, sef y di-wifr. Owie Jones
|